Dewislen
English
Cysylltwch
Teitl y prosiect: The Long View
Cyfranogwyr: Menywod o liw, a’u plant, trwy’r elusen merched Aurora Trinity Ar y Cyd. Mae’r rhan fwyaf o’r merched hyn wedi bod yn ymgeiswyr lloches yng Nghaerdydd, dinas noddfa.  

Gwybodaeth am y prosiect: 

Daw’r enw The Long View o’r syniad bod edrych allan i’r gorwel a thu hwnt yn fuddiol i’n llesiant. Cafodd y prosiect ei gyd-gyflwyno gan Taylor Edmonds a Nasia Sarwar-Skuse. Roedd yn cyfuno ymweld â mannau naturiol yng Nghaerdydd a’r ardaloedd cyfagos gyda gweithdai ysgrifennu creadigol a gweithgareddau adrodd straeon i greu ymdeimlad o berthyn i gyfranogwyr, ac i hawlio gofod yn eu hamgylchedd.

Mae wedi ei ddogfennu’n helaeth fod menywod o liw yn profi rhwystau ynghylch mynediad at natur a’r tirwedd a, yn enwedig rheiny sydd wedi gorfod gadael eu gwlad enedigol a chreu cartref newydd. Roedd y prosiect yn annog y cyfranogwyr i ddefnyddio ysgrifennu creadigol fel ffordd o osod eu hunain  yn eu hamgylchedd a gofodau sydd wedi bod ar gau iddynt yn hanesyddol, trwy archwilio eu hymdeimlad o berthyn, cymuned, a chysylltiad â’r amgylchedd naturiol.

Adborth y Cyfranogwyr

Roedd y straeon a rannwyd gennym yn brydferth a daeth ein holl atgofion o’r gorffennol yn fyw yn y sesiynau. Roeddwn i’n hoffi’r cyfle i ysgrifennu a thrafod natur. Roeddwn hefyd wrth fy modd yn darllen ac ysgrifennu cerddi a’u rhannu yn y sesiynau. Mwynheais i ddull tyner, tawel y sesiynau, gan roi cyfle i bawb fynegi eu hunain. Roedd yn teimlo fel lle diogel i fod ynddo.

Cerdd – The Long View

Nature is everything that life is. We plant trees

When babies are born in an act of hope for the future.

Ukwu orji. Trees remind us of our ancestors,

life before us and life after we’re gone.

We gather under those same trees, pick

Papaya, guava, mango from our gardens,

Nourished by nature. Mausomay khazan.

Autumn comes as it always does,

Reminds us of the cycle of things,

To have trust in the process.

We visit the sea with the heaviness

Of life and worry, with the receding

Tide we give it all up, watch it wash out.

Stand under the rough and rugged

Force of a waterfall, watch the landscape

From a mountain top. Reminded

We are small but part of something.

We retreat in the winter and dream

Of the long view from the wet sand

Out to the horizon. Ala mma.

Ysgrifennwyd gan Aurora Trinity Ar y Cyd mewn partneriaeth a Nasia Sarwar-Skuse a Taylor Edmonds. Gwyliwch y ffilm o’r gerdd ar Youtube.

Bywgraffiadau yr artistiaid:

Taylor Edmonds yw Bardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Mae hi wedi gweithio fel awdur a hwylusydd creadigol yng Nghymru ers dros dair blynedd. Yn 2020 derbyniodd un o Wobrau Rising Stars Llenyddiaeth Cymru. Mae hi’n aelod o dîm Where I’m Coming From, cymuned ar gyfer awduron sydd wedi’u tangynrychioli yng Nghymru. 

Mae Nasia Sarwar-Skuse yn awdur ac yn cyflawni PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi wedi bod yn gweithio fel hwylusydd ysgrifennu creadigol ers tair blynedd ac mae’n angerddol dros bresenoldeb dilysrwydd mewn llenyddiaeth gan leisiau ethnig a’i groestoriadau â diaspora, rhywedd, a chof. Dyfarnwyd Ysgoloriaeth gan Llenyddiaeth Cymru i Nasia yn 2019. Mae ei gwaith wedi ymddangos mewn nifer o gyhoeddiadau.

Nôl i Gwaith Comisiwn i Awduron #4