Dewislen
English
Cysylltwch

Enw Prosiect: Operation Get an Agent / Ymgyrch dod o hyd i asiant

Cyfranogwyr: wedi’i anelu at awduron sydd wedi ysgrifennu darn cyflawn o ryddiaith ac sydd â diddordeb dod o hyd i asiant

Prif Artist: Julia Forster

Platfform Digidol: Gwefan Llenyddiaeth Cymru / www.julia-forster.com

 

Gwybodaeth am y prosiect: Mae sawl awdur yng Nghymru heb gynrychiolaeth gan asiant llenyddol. Yn addas ar gyfer egin awduron ac awduron profiadol sydd â diddordeb dod o hyd i asiant llenyddol, bydd y pedair erthygl yma yn archwilio’r pynciau hyn:

  1. Pam y dylem ystyried cael asiant? Beth all asiant ei gyflawni dros awduron yng Nghymru?
  2. Awgrymiadau ar sut i gyflwyno eich hun i asiant; a sicrhau fod eich ceisiadau yn berffaith – bydd y canllaw yn cynnwys cyngor gan asiant a chyhoeddwr.
  3. Beth yw’r camgymeriadau mwyaf cyffredin wrth geisio dod o hyd i asiant? Sut allwn ni eu hosgoi?
  4. Beth i’w wneud os yw asiant yn ein gwrthod? Beth yw’r camau nesaf?

 

Gwybodaeth am Julia: Mae Julia Forster yn awdur arobryn sy’n byw ym Machynlleth. Mae hi wedi cyhoeddi nofel – What a Way to Go (Atlantic Books, 2016), a llyfr o’r enw Muses: Revealing the Nature of Inspriation (Pocket Essentials, 2007). Mae Julia’n gweithio i New Welsh Review a The Literary Consultancy (TLC) yn ogystal â gwneud gwaith cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer gweisg annibynnol, tra hefyd yn astudio ar gyfer Diploma mewn Datblygiad Ysbrydol. Ei hangerdd yw meithrin gwytnwch a dyfalbarhad awduron. Ei chydweithrediad diweddaraf oedd fel cynhyrchydd yn gweithio gydag Aki Schilz yn y TLC yn Llundain i gyd-greu a datblygu’r rhaglen Being a Writer.

 

“Un o fy swyddi cyntaf yn y maes cyhoeddi oedd pori drwy’r pentwr o lawysgrifau oedd wedi eu gyrru at asiantaeth lenyddol. Yn sydyn iawn fe ddysgais beth oedd yn denu fy sylw. Fodd bynnag, cefais fy synnu hefyd gyda’r nifer o awduron oedd yn disgyn dros y glwyd gyntaf un. Fy mwriad fel catalydd neu asiant o fewn y maes datblygu awduron yw arwain ac annog, a hynny mewn ffordd gadarnhaol. Rwy’n gweld yn aml fod awduron yng Nghymru yn cael eu dal yn ôl oherwydd diffyg hyder a dyfalbarhad. Mae’r cyfle hwn i gyflwyno fy syniadau am sut i sicrhau asiant yn fy ngalluogi i osod fy holl gyngor mewn un man.” – Julia Forster

Nôl i #GwaithComisiwnLlC

Nôl i Gwaith Comisiwn i Awduron Llenyddiaeth Cymru