Dewislen
English
Cysylltwch

Enw Prosiect: Un Tudalen – One Page

Cyfranogwyr: Cyfranogwyr creadigol, awduron llesiant, defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl, unigolion sydd adref, awduron newydd sbon, unigolion yn chwilio am her newydd, a’r rheiny sy’n dymuno aros yn ddienw

Prif Artistiaid: Georgia Colman, Lowri Hedd, Effy Jones, Will Philpin

Platfform Digidol: Gwefan, Twitter, Facebook ac Instagram

Gwybodaeth am y prosiect: Dim ond un dudalen wag sydd ei hangen; eich llais – ag amser ar eich pen eich hun. Bydd Un Tudalen – One Page yn cynnig ysbrydoliaeth – dim ond papur a phensil sydd ei angen arnoch.

Bydd Un Tudalen – One Page yn fenter i annog creadigrwydd ymysg awduron profiadol a newydd. Bydd yn cynnig ysgogiad creadigol positif dyddiol ac yn rhannu profiadau yn ymwneud â Iechyd Meddwl.

Gwybodaeth am LLIF::FLOW: Grŵp creadigol newydd yng ngogledd ddwyrain Cymru ydi LLIF::FLOW. Eu bwriad yw creu naratifau newydd yng ngogledd Cymru ac i helpu llesiant ein cymunedau drwy gynnig profiadau newydd a rhyfeddol drwy’r celfyddydau.

 

“Byddwn yn herio unrhyw un sy’n honni ‘nid wyf yn greadigol’ ac yn helpu unigolion wella eu llesiant drwy’r broses ysgrifennu” – LLIF::FLOW

 

Nôl i #GwaithComisiwnLlC

Nôl i Gwaith Comisiwn i Awduron Llenyddiaeth Cymru