Dewislen
English
Cysylltwch

Dysgwyr yn creu drwy’r Covid

Mae’r prosiect hwn yn hannu o waith comisiwn a ddyfarnwyd i Mared Lewis, fel rhan o alwad agored gan Llenyddiaeth Cymru yn gynharach eleni. Roedd y prosiect yn cynnig gweithdai ysgrifennu creadigol i ddysgwyr Cymraeg dros Skype, yn ogystal â chyfle i gael adborth unigol ar eu gwaith ysgrifennedig.

Mae 10 o’r grŵp wedi penderfynu rhannu rhai o’u gwaith mewn casgliad arbennig. Gallwch ddarganfod rhagor am bob un o’r awduron isod, cyn darllen y casgliad isod, neu drwy glicio yma.

Bywgraffiadau

Angela Yeoman

Dw i mor ddiochgar i’r athrawon Cymraeg ysbrydoledig  a oedd yn fy annog ar ddechrau’r fy nhaith i ddysgu’r iath chwe mlynedd yn ôl. Dw i nawr yn gwneud pob ymdrech i ddefnyddio’r iaith bob dydd gyda ffrindiau, cydweithwyr a’r plant rydw i’n eu dysgu fel athrawes yng Nghaerdydd. Mae hi wedi bod yn daith lawen iawn.

Clare Brathmere

Dw i wedi cael cyngor y byddai’n well peidio ag ysgrifennu dim byd am gael fy magu ym Mhenarlâg (Sir y Fflint) mewn teulu di-Gymraeg na sgriblo am symud yn ôl i’m gwlad hardd ar ôl i mi ymddeol a phenderfynu dysgu’r iaith fendigedig hon; felly ni wna i. Yn hytrach na gwneud hynny, esboniaf fy mod i wedi mwynhau her erioed a phan glywais am y cyfle i ysgrifennu stori fer o dan arweiniad Mared, cofrestrais yn ddi-oed. “Pam oedd hyn yn her?” medra i’ch clywed chi yn gofyn. Wel, oherwydd diffyg dychymyg a dw i erioed wedi ysgrifennu stori mewn Saesneg, heb sôn yn y Gymraeg! Roedd yr holl brofiad yn anhygoel a dw i wedi darganfod bod gen i ddychymyg wedi’r cwbl. Am syndod! Diolch yn fawr iawn i Mared am fy helpu i gael hyd i rywbeth sydd wedi’i guddio am tua chwedeg mlynedd. Serch hynny, addawa y bydda i’n defnyddio fy nychymyg newydd sbon i ysgrifennu stori’n fwy cysurus y tro nesaf!

Colin Hughes

Wedi ei eni a’i fagu yng ngogledd Cymru, mae Colin wedi bod yn gweithio fel ymchwilydd ac Athro ym maes microbioleg foleciwlaidd yn Ewrop, yr Unol Daleithau a Chaergrawnt cyn iddo symud i fyw ar Ynys Môn. “Mae’n heriol i ddysgu Cymraeg fel oedolyn ond roedd y cwrs bach hwn yn ddifyr iawn, cyfle gwych i feddwl am sut i adeiladu stori fer.”

Janine Hall

Janine Hall dw i. Dw i’n byw ym Mlaenau ffestiniog ac mae gen i ASD (Ahwylder Sbectrwm Awtistig yn Gymraeg). Dyma’r tro cynta i mi ysgrifennu stori yn Gymraeg – wel, tro cynta mi ysgrifennu unrhywbeth yn Gymraeg.  Mi wnaeth fy nhiwtor Cymraeg Catrin helpu mi efo tipyn bach efo fy  ngramadeg. Mi fwynheais i’r cwrs achos mae Mared yn garedig iawn. Do’n i ddim yn meddwl mod i’n medru… dydy popeth ddim yn berffaith, ond dw i’n edrych ymlaen i’r ysgrifennu rhywbeth arall pan fy Nghymraeg yn well.

Julie Pearce

“Dw i’n byw yn Aberbechan, yn ymyl Y Drenewydd, ers 2011.  Ro’n i’n arfer gweithio fel gwas sifil yn San Steffan, ond es i ar fy ngwyliau i Seland Newydd, cyfarfyddais â Chymro, ac erbyn hyn dw i’n byw efo fo, ychydig o ieir a champerfan o’r enw Nessa.  Dw i erioed wedi ‘sgwennu stori fer yn y Gymraeg (neu Saesneg!), ac roedd hi’n anodd dewis pwnc, ond ar ôl i mi ddechrau, ac efo help Mared, mwynheais y profiad yn llwyr, a dw i’n teimlo mod i wedi cyflawni rhywbeth yn ystod y Meudwyo Mawr.”

Diolch eto am eich cefnogaeth.  Dw i wedi cael lot o hwyl efo’r sgwennu.  Gobeithio bydda i’n mynd ymlaen efo ‘sgwennu yn y Gymraeg.

Kevin Ellis

Mae Kevin Ellis yn wreiddiol o Sheffield. Mae o’n falch iawn o’i wreiddiau yn Swydd Efrog. Mae Kevin yn Ficer ar Ynys Môn ac mae wedi bod wrth ei fodd yn dysgu Cymraeg. Mae Kevin wedi mwynhau’r profiad o ysgrifennu’n greadigol yn Gymraeg. Fel y gallwch weld, mae gan Kevin ddychymyg byw!

Montague Slocombe

Monty Slocombe, wedi ymddeol ers tipyn, cyn pysgotwr, gwas fferm, soldiwr, garddwr tirlun, gyrrwr lori ac yn ddiweddar heddwas yn Lerpwl a Gogledd Cymru tan 1991.  Diddordebau: crwydro’r mynyddoedd, ioga, darllen (lot) ieithoedd, peintio a chymdeithasu.  Ac yn ddiweddar ysgrifennu ar ôl 30 mlynedd o sgwennu adroddiadau ffeithiol heb elfen o ddychymyg.  Ond efallai byddai rhai’n byd cyfreithiol yn mynnu gormod o ddychymyg yn y llys. Meddwl y byd o’m nheulu, yn enwedig fy 5 o ŵyr a wyresau.

Sarah Hattle

Dw i’n byw yn Ngogledd Cymru ynghanol y goedwig efo’r gŵr, pedwar o blant a dau filgi. Symudon ni yma dair mlynedd yn ôl ond dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers talwm! Mae’r plant yn medru siarad Cymraeg yn rhugl yn barod. Dydy fy meibion ddim yn licio siarad Cymraeg efo fi o gwbl! Mae gan fy merch llawer o amynedd!

Dw i’n mwynhau beicio mynydd, cerdded yn y mynyddoedd a nofio gwyllt. Dyma’r tro cynta i mi ysgrifennu stori fyr yn Gymraeg ac roedd y profiad ac cyfle i ddysgu gan Mared yn arbennig!

Sue Hyland

Helo! Sue Hyland dw i. Dw i’n byw yng nghanol nunlle yn ymyl Llanidloes a dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers symud i Gymru yn 2012. Dw i’n hoffi byd natur, cerdded yng nghefn gwlad a darllen a sgwennu yn Gymraeg. Mae’r cwrs ‘Dysgwyr yn creu drwy’r covid’ wedi bod yn wych! Tipyn o her i sgwennu tua 1500 o eiriau mewn ail iaith ond dw i wedi mwynhau y profiad yn fawr iawn. Y llynedd, mi brynais i delyn ac ar hyn o bryd, rhaid i mi ddysgu fy hun- her arall a dweud y gwir achos dw i ddim yn gallu darllen cerddoriaeth ond mi wna i ddyfalbarhau! Dw i’n hoffi heriau!

Tedy Lewis

¡Hola! Fy enw i ydy Douglas Lewis, ond mae pawb yn fy nabod i fel Tedy. Dwi’n dod yr holl ffordd o Batagonia, Yr Ariannin. Dwi’n 18 oed a dwi’n byw mewn tre o’r enw Trelew. Dwi yn y flwyddyn olaf yr ysgol, a dwi’n gobeithio mynd i’r brifysgol flwyddyn nesaf.

Ar hyn o bryd, dwi’n byw yn Llanddarog gyda theulu Eiry Miles a Dai Bryer. Dwi wedi bod yma yng Nghymru ers dechrau Mis Ionawr. Ro’n i fod i gadael yn mis Mawrth, ond oherwydd y sefyllfa ar hyn o bryd, dwi ddim wedi cael cyfle i ddychwelyd adref eto.

Er fy mod i wedi bod yn styc yma, dwi wedi bod yn llwyddiannus yn dod o hyd i bethau i wneud. Un o’r pethau yma oedd y cwrs “Creu drwy’r Covid”, rhywbeth sy wedi cadw fy hunan yn brysur amser lockdown.

Yn bersonol, mi wnes i ffeindio sgwennu’r stori fer yn werthfawr. Mwynheais i’r holl broses, o feddwl am gymeriadau tan cywiro’r gwaith olaf. Mi wnes i ddeall pam mae’r pobl yn dweud dy fod ti’n dysgu mwy am dy hunan pan ti’n sgwennu, ac ar y diwedd y cwrs roedd hi’n anhygoel gwrando ar storiau pawb.

Dwi moyn dweud diolch i Mared, sy wedi o’r diwrnod cyntaf  helpu fi i gario ymlaen. Dwi dal heb orffen fy stori, ond hoffwn i rannu’r rhan gyntaf efo pawb.

Diolch enfawr! ¡Muchas gracias!

Tedy x

Nôl i Mared Lewis