Dewislen
English
Cysylltwch

Enw Prosiect: Dysgwyr yn creu drwy’r Covid

Cyfranogwyr: Dysgwyr Cymraeg (Lefel Uwch)

Prif artist: Mared Lewis

Platfform Digidol: Clipiau fideo YouTube, cyfarfodydd Skype ac adborth unigol dros e-bost / Skype

Gwybodaeth am y prosiect:

Prosiect yw hwn fydd yn edrych ar hanfodion stori fer er mwyn arwain y Dysgwyr i greu eu hunain drwy gyfres o sbardunau ar y ffordd.

Bydd elfennau didactig ar hanfodion y ffurf, cymeriadu, a strwythuro, ac yna rhoddir tasgau penodol cyn i’r Dysgwyr fwrw iddi i ddechrau creu’r drafft cyntaf. Yn ystod pob cymal , bydd pawb fel grŵp yn derbyn awgrymiadau ar elfennau newydd i’w cyflwyno er mwyn bwrw’r stori i gyfeiriad gwahanol.

Cynigir adborth i bob Dysgwr ar adegau penodol o’r broses.

 

Gwybodaeth am Mared:

Mae Mared Lewis yn awdur llawrydd, a’i nofel ddiweddaraf i oedolion yw Treheli (Y Lolfa, 2019). Mae hi hefyd wedi cyhoeddi nofelau i ddysgwyr fel rhan o gyfres Amdani, yn cynnwys Llwybrau Cul (Gomer, 2018) a hi hefyd yw awdur Fi a Mr Huws (Y Lolfa, 2017). Yn ogystal ag ysgrifennu, mae Mared hefyd yn diwtor Cymraeg i Oedolion, ac yn cynnal sesiynau ysgrifennu creadigol i oedolion yn bennaf. Mae’n byw ar Ynys Môn gyda’i gŵr ac yn fam i ddau fab sydd bellach yn fyfyrwyr. Yn ei hamser hamdden, mae hi’n mwynhau cadw’n heini, Pilates ac ymweld â’r theatr.

 

“Dyma gyfle i Ddysgwyr ddod at ei gilydd i greu stori fer mewn awyrgylch ddigidol gefnogol a hamddenol.” – Mared Lewis

Nôl i #GwaithComisiwnLlC
Nôl i Gwaith Comisiwn i Awduron Llenyddiaeth Cymru