Dewislen
English
Cysylltwch

Enw Prosiect: Defnyddio’r ysgrif greadigol a’r stori fer i adrodd straeon sy’n cael eu tangynrychioli

Cyfranogwyr: Egin Awduron sy’n uniaethu fel unigolyn o gefndiroedd du, Asiaidd neu leiafrif ethnig, LHDTC+, neurodivergent, ar incwm isel ac/neu ag anableddau

Prif Artist: Özgür Uyanık a Durre Shahwar

Platfform Digidol: Webinar arlein; Gwefan Llenyddiaeth Cymru

 

Gwybodaeth am y Prosiect

Bu’r ddau yn cynnal webinar awr o hyd gydag 11 egin awdur o Gymru sy’n uniaethu fel unigolyn o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig; LHDTC+; neurodivergent; ar incwm isel ac/neu ag anableddau. Roedd y webinar yn trafod ffurfiau a phosibiliadau’r stori fer ag ysgrif greadigol. Yna roedd yr awduron yn datblygu eu syniad gwreiddiol ac yn derbyn adborth golygyddol er mwyn ehangu eu dealltwriaeth o ffurf yr ysgrif creadigol / stori fer a’r camau sy’n cymryd lle yn y broses o olygu. Llwyddodd hyn i roi hyder ac ysgogiad i’r awduron gyflwyno eu gwaith i gyhoeddwyr a chymryd rhan mewn cynlluniau datblygu awduron yn y dyfodol.

 

Gwybodaeth am Özgür
Awdur a scriptiwr ffilmiau yw Özgür, daeth ei deulu i’r Deyrnas Unedig o Dwrci yn 1980. Bydd ei nofel gyntaf Conception yn cael ei chyhoeddi gan Fairlight Books yn 2020 ac mae’n gyd-olygydd ac yn gyfrannwr i gasgliad o ysgrifau creadigol gan awduron sy’n cael eu tangynrychioli fydd hefyd yn cael ei gyhoeddi yn 2020. Mae sgriptiau ffilm nodwedd sydd ganddo ar y gweill wedi eu cefnogi gan Ffilm Cymru a’r BFI drwy raglen MEDIA Ewrop Greadigol. Mae’n astudio am ddoethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae ganddo radd MA mewn Ysgrifennu Creadigol a Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Metropolitan Caerdydd.

 

Gwybodaeth am Durre
Awdur yw Durre Shahwar sydd yn archwilio hunaniaeth De Asiaidd drwy themâu sydd yn ymdrin â dosbarth, rhywedd, ymfudiad a iechyd meddwl. Hi yw sefydlydd Where I’m Coming From, rhwydwaith o lenorion a noson meic agored sy’n rhoi llwyfan i awduon sy’n cael eu tangynrychioli yng Nghymru. Mae Durre wedi cyfrannu i nifer o gasgliadau yn cynnwys Know Your Place: Essays on the Working Class (Dead Ink Books), We Shall Fight Until We Win (404 Ink) a Homes for Heroes 100 (Bristol Festival of Ideas). Bu Durre’n cymryd rhan yn rhaglen Awduron wrth eu Gwaith, Gŵyl y Gelli a BBC Writersroom Cymru. Mae hi ar hyn o bryd yn astudio am ddoethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn gweithio ar ei llyfr cyntaf.

 

Nôl i #GwaithComisiwnLlC

Nôl i Gwaith Comisiwn i Awduron Llenyddiaeth Cymru