Dewislen
English
Cysylltwch

Enw Prosiect: Vāc: ble mae’r llais?

Cyfranogwyr: Agored i bawb

Prif artist: Siân Melangell Dafydd

Platfform Digidol: Zoom; grŵp Facebook caeedig

 

Gwybodaeth am y prosiect:

Mae straeon yn ein cyrff, petai ni’n gwrando. Mae’r llais yno hefyd, ond i ni wrando. Dyma gyfle i chi symud, sgwennu a mwynhau seibiau maethlon. Daw’r straeon i’r arwyneb wrth i ni weithio gyda’n gilydd. Byddwn yn defnyddio’r synhwyrau a’r wybodaeth gyfoethog gawn ganddyn nhw i symud ein cyrff a’n ysgrifennu. Drwy ddychwelyd at ein synhwyrau’n llawn, byddwn yn dod i le cyfforddus y tu mewn i ni’n hunain a gadael i’r hunan creadigol, chwareus, rhydd, fynegi ei hun. Byddwn yn ymarfer gyda’n gilydd ar y we ac yna bydd ymarferion cartref (nid gwaith cartref!) rhwng cyfarfodydd, i chi ddyfnhau’r patrwm a’r newid yn eich corff. Byddwch yn medru defnyddio’r ymarferion unrhyw bryd yn y dyfodol. Does dim angen gwybodaeth na phrofiad eang o ysgrifennu nac yoga i ymuno, ond dylech fod a mat yoga neu rywbeth tebyg a chyfforddus i’w ddefnyddio o adre.

 

Bywgraffiad Siân:

Magwyd Siân Melangell Dafydd ar droed y Berwyn, lle mae wedi dychwelyd er iddi fyw a gweithio yn yr Eidal mewn orielau, ac yn Ffrainc ym Mhrifysgol America, Paris. Siân yw awdur Y Trydydd Peth (Gwasg Gomer, 2009), enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod 2009 a chyd-olygydd olaf y cylchgrawn llenyddol eiconig, Taliesin. Mae’n gweithio’n ddiwyd â beirdd o’r India ac ar ymchwil doethuriaeth yn defnyddio yoga ac ysgrifennu fel ymarferion cyfochrog creadigol. Cyhoeddwyd ei nofel diweddaraf, Filò (Gwasg Gomer) yn 2019.

 

“Mae hwn yn brosiect i unrhyw un sy’n dioddef o broblemau meddyliol megis gorbryder yn y cyfnod hwn. Mae gan bawb botensial creadigol ac mae sgiliau yoga yn gweithio’n syfrdanol wrth feithrin llais creadigol bob unigolyn.”– Siân Melangell Dafydd

Nôl i Gwaith Comisiwn i Awduron Llenyddiaeth Cymru