Enw Prosiect: Gollwng y geiriau’n rhydd
Cyfranogwyr: Agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn arwain gweithdai ysgrifennu creadigol mewn cyd-destunau iechyd a llesiant.
Prif artist: Sian Northey
Platfform Digidol: Adnoddau digidol
Gwybodaeth am y prosiect:
Nod y prosiect yw i ddarparu adnodd yn y Gymraeg i helpu’r rhai sydd am arwain gweithdai ysgrifennu creadigol mewn cyd-destunau iechyd a llesiant.
Bywgraffiad Sian:
Mae Sian Northey yn awdur, olygydd neu gyfieithydd 17 o lyfrau – yn amrywio o nofelau i blant i farddoniaeth. Ei chyfrol ddiweddaraf yw Perthyn (Gwasg Gomer, 2019) a bydd cyfrol o straeon byrion yn cael ei chyhoeddi gan Wasg y Bwthyn eleni. Mae hefyd yn cynnal gweithdai ar gyfer plant ac oedolion yn rheolaidd ac wedi gweithio mewn amrywiol sefyllfaoedd megis gyda Carchar Berwyn, Disability Arts Cymru, pobl yn byw â dementia, ysgolion arbennig, pobl â dibyniaeth.
“Dw i’n gwybod cymaint dw i wedi elwa o bethau fel gweithdai John Killick a bod yn aelod o Lapidus – ac mae’n bwysig bod beirdd ac awduron Cymraeg yn gallu cael cymorth trwy gyfrwng y Gymraeg ac mewn cyd-destun Cymreig.” – Sian Northey