Dewislen
English
Cysylltwch

Enw Prosiect: How my spring is sprung

Cyfranogwyr: Beirdd, Awduron ac Artistiaid sydd â chysylltiad gyda Chymru

Prif Artist: Taz Rahman

Platfform Digidol: Youtube

 

Gwybodaeth am y prosiect

Bu Taz yn cynnal prosiect llenyddol digidol gyda’r bwriad o ysbrydoli gobaith drwy ganolbwyntio ar farddoniaeth yn ystod unigedd y cloi mawr. Cyfres o gyfweliadau gydag awduron sy’n cael eu tangynrychioli oedd Just Another Poet, gan siarad am eu gwaith a’r sector yn ehangach. Roedd yr awduron yn cynnwys: Taylor Edmonds, Mike Church, Katherine Stansfield, Christina Thatcher, Natalie Holborow, Jessica Mookherjee ac Aneirin Karadog.

Yna, fe greodd Poet Asylum –  fideo o noswaith lenyddol rithwir wedi ei churadu o recordiadau gweithiau awduron newydd a phrofiadol dethol. Nod ehangach y prosiect oedd arddangos talent y sîn farddol Gymreig i gynulleidfa ddigidol newydd.

 

Gwybodaeth am Taz

Mae Taz Rahman yn 45 oed ac yn dod o Gaerdydd. Dechreuodd ysgrifennu barddoniaeth a straeon byrion yn 2019.  Mae ei gerddi ac ei adolygiadau wedi ymddangos yn Poetry Wales, yng nghylchgrawn South Bank Poetry, yn Love the Words, sef blodeugerdd enillwyr cystadleuaeth barddoniaeth Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas 2020, ym mlodeugerdd 2019 Where I’m Coming From, ac yn y flodeugerdd sydd i’w chyhoeddi’n fuan ac wedi’i golygu gan Mike Jenkins, Poems for Independence (Gwasg Carreg Gwalch, 2021). Mae o’n un o feirniaid Cystadleuaeth Pamffled Poetry Wales 2021. Taz hefyd yw sylfaenydd Just Another Poet, sianel YouTube gyntaf Cymru sy’n cyflwyno barddoniaeth yn unig. Ef yn ogystal yw golygydd a sylfaenydd y blog hirhoedlog sy’n archifo newyddion cyfreithiol, Lawnewsindex.com.

Gwefan: https://tazrahman.blogspot.com/

Trydar: @amonochromdream

Instagram: @tazphotopoetry

 

 “Geiriau oedd fy nghariad cyntaf a’m diddanwch o pan oeddwn yn ifanc iawn. Mae astudio gweithiau beirdd o’r gorffennol a’r presennol wedi rhoi’r hyder i mi chwilio am fy llais fy hun. Mae barddoniaeth yn llesol, yn gysur mewn amseroedd anodd; ac mae unrhyw gyfle i greu a hybu rhinweddau barddoniaeth yn fendith.” – Taz Rahman

 

Nôl i #GwaithComisiwnLlC

Nôl i Gwaith Comisiwn i Awduron Llenyddiaeth Cymru