Dewislen
English
Cysylltwch
Mae Durre Shahwar ac Elan Grug Muse, wedi bod wrthi’n ymateb yn greadigol i sgwrs genedlaethol ar ddyfodol amgylchedd naturiol Cymru fel rhan o Natur a Ni, ymgyrch genedlaethol a lansiwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cafodd y beirdd eu dethol gan banel o gynrychiolwyr o Llenyddiaeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru a fu’n ystyried rhestr fer o 7 awdur a oedd wedi ymwneud â phrosiectau blaenorol fu’n archwilio’r Argyfwng Hinsawdd.Fel beirdd preswyl, bydd Durre Shahwar ac Elan Grug Muse yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cenedlaethol, yn ogystal â chynnal gweithdai creadigol gyda ffermwyr yng Ngogledd Cymru a phobl Du, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig yng Nghaerdydd i gasglu eu syniadau am dyfodol yr amgylchedd yng Nghymru. Byddant wedyn yn creu ymatebion barddonol i’r sesiynau i’w rhannu’n eang dros Cymru gyfan.

Elan Grug Muse
Awdur o Ddyffryn Nantlle yw Elan Grug Muse. Mae hi’n ysgrifennu barddoniaeth ac ysgrifau yn bennaf, ond mae hi hefyd yn olygydd a chyfieithydd. Cyhoeddwyd ei chasgliad diweddaraf, merch y llyn, yn 2021, ac mae ei gwaith wedi’i gynnwys yn O’r Pedwar GwyntCodi PaisPoetry Wales, Wales Arts Review, ac wedi’i gyfieithu i’r Groeg a’r Croateg. Bu hi yn gyd-olygydd o’r casgliad o ysgrifau Welsh (plural) a fydd yn ymddangos gyda Repeater yng ngwanwyn 2022, ac hefyd o Dweud y Drefn Pan Nad Oes Trefn, casgliad o farddoniaeth gyfoes a gyhoeddwyd yn 2020. Mae’n archwilio themâu o hunaniaeth ac iaith, yn ogystal â natur a’r argyfwng hinsawdd yn ei gwaith.
Durre Shahwar
Mae Durre Shahwar yn awdur, ymchwilydd, ac yn gyd-sylfaenydd o ‘Where I’m Coming From’, cydweithfa gymunedol ar gyfer awduron o liw yng Nghymru. Mae ei Gwaith wedi’i wreiddio mewn hwyluso cymunedol, ymchwil, a chreadigrwydd, gan groesi’r ffiniau rhwng ysgrif, hunan-ffuglen, a barddoniaeth ryddiaith. Mae Durre yn ymgeisydd PhD AHRC mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae’n dysgu Ysgrifennu Creadigol. Mae ei Gwaith wedi’i gyhoeddi mewn amryw o leoedd, yn enwedig: Know Your Place: Essays on the Working Class (Dead Ink Books), We Shall Fight Until We Win (404 Ink), Homes For Heroes 100 (Festival of Ideas). Bu hefyd yn gyd-olygu Just So You Know (Parthian Books). Mae Durre yn gweithio ar ei llyfr cyntaf am berthyn fel person Cymreig-Pacistanaidd.
durreshahwar.com / @Durre_Shahwar

Dywedodd Elan Grug Muse:

“Mae angen i ni fod yn gwella’r ffordd ‘yda ni’n byw ar y blaned yma – ac nid dim ond byw mewn ffordd sy’n wyrddach, ond hefyd sy’n decach, ac yn fwy cyfiawn. Allwn ni ddim gwneud hynny heb wrando ar leisiau a storïau’r holl gymunedau sy’n cael eu heffeithio gan yr argyfwng hinsawdd a’r ffyrdd ‘yda ni’n dewis ymateb iddo fo.”

Dywedodd Durre Shahwar:

“Mae pawb yn ddibynnol ar natur ac mae argyfwng hinsawdd yn rhywbeth sy’n ein effeithio ni i gyd, ond yn rhywbeth rydyn ni i gyd yn ymateb iddo mewn gwahanol ffyrdd. Gall newidiadau bach arwain at effaith fawr.”

Dyma enghraifft o’r gwaith:

Nôl i Natur a Ni