Dewislen
English
Cysylltwch

Natur a Ni

Mae Natur a Ni yn ymgyrch genedlaethol blwyddyn o hyd a lansiwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyda’r nod o ddatblygu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y flwyddyn 2050, trwy annog pobl i ddarganfod mwy am y ffyrdd mae ein gweithredoedd yn effeithio yr amgylchedd naturiol ac i ystyried sut mae angen i ni newid y berthynas rhwng ein cymdeithas a natur.

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae Natur a Ni yn ymwneud â phobl Cymru yn dod at ei gilydd mewn ymdrech ar y cyd i warchod ein hamgylchedd naturiol. Rydym ni angen actio nawr i taclo’r argyfyngau hinsawdd a natur, ond rydym hefyd am ddatblygu gweledigaeth ar gyfer ein dyfodol. Dyfodol y mae pawb yng Nghymru yn teimlo ei fod yn deg ac yn gyraeddadwy.”

“Yr unig ffordd y gallwn ni wneud hyn yw trwy wneud yn siŵr ein bod yn clywed gan gymaint o leisiau â phosib o bob rhan o gymdeithas.”

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyd-weithio â Chyfoeth Naturiol Cymru ar ddau brosiect fel rhan o’r ymgyrch; Beirdd Preswyl a Gwaith Comisiwn i Awduron. Mae rhagor o fanylion am y ddwy elfen isod.