Dewislen
English
Cysylltwch
Aneirin Karadog
Athro Barddol i Ana Chiabrando Rees
Mwy
Mererid Hopwood
Athro Barddol i Tegwen Bruce-Deans
Mwy
Rhys Iorweth
Athro Barddol i Buddug Watcyn Roberts
Mwy
Tudur Dylan Jones
Athro Barddol i Non Lewis
Mwy
Aneirin Karadog
Athro Barddol i Ana Chiabrando Rees

Bardd, ieithydd, darlledwr ac awdur yw Aneirin Karadog. Mae'n fab i Lydawes a Chymro ac yn medru 6 iaith, gan gynnwys Llydaweg. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2016 a bu'n fardd Plant Cymru rhwng 2013-2015. Enillodd ei ddwy gyfrol gyntaf o farddoniaeth y categori barddoniaeth yn Llyfr y Flwyddyn yn 2013 a 2017. Wedi ei eni yn Llanrwst, ei fagu ym Mhontardawe ac yna tyfu lan ym Mhontypridd, mae e bellach yn byw gyda'i blant ym Mhontyberem.

Cau
Mererid Hopwood
Athro Barddol i Tegwen Bruce-Deans

Mae Mererid wedi treulio ei gyrfa ym myd addysg, ieithoedd a llenyddiaeth. Mae’n Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth. Enillodd Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol, Gwobr Llyfr y Flwyddyn, (barddoniaeth), Gwobr Tir na n-Og (llyfrau plant) a derbyniodd Fedal Farddoniaeth Gŵyl y Gelli (2023). Bu’n Fardd Plant Cymru ac mae wrth ei bodd yn cydweithio ag artistiaid o wahanol gelfyddydau, o ddawns i ddrama, o gelfyddyd weledol i ffilm a cherddoriaeth. Mae’n un o lywyddion anrhydeddus Cymdeithas Waldo Willams ac yn Ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru. Hi yw’r Archdderwydd cyfredol.

Cau
Rhys Iorweth
Athro Barddol i Buddug Watcyn Roberts

Bardd, cyfieithydd ac ysgrifennwr copi llawrydd yw Rhys Iorwerth. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011 ac ef oedd Prifardd Coronog Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023. Enillodd Wobr Farddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2015. Cyhoeddodd dair cyfrol o farddoniaeth, Un Stribedyn Bach (Gwasg Carreg Gwalch, 2014), Carthen Denau: Cerddi'r Lle Celf 2019 (Cyhoeddiadau'r Stamp, 2019) a Cawod Lwch (Gwasg Carreg Gwalch, 2021) ac un gyfrol o ryddiaith, Abermandraw (Gwasg Gomer, 2017). Mae wedi cynnal dosbarthiadau cynganeddu yng Nghaerdydd a Chaernarfon ers dros ddegawd ac mae’n un o sefydlwyr nosweithiau barddoniaeth Bragdy’r Beirdd.

Cau
Tudur Dylan Jones
Athro Barddol i Non Lewis

Mae Tudur Dylan Jones yn byw yng Nghaerfyrddin, ac yn gweithio'n llawrydd ers pedair blynedd. Bu'n dysgu Cymraeg yng Nghaerfyrddin, Aberteifi a Llanelli, ac mae'n Uwch Arholwr Llenyddiaeth gyda CBAC. Mae'n enillydd y Gadair a'r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddodd nifer o lyfrau, gan gynnwys cyfrolau am chwedlau ac arwyr Cymru, a'r nofel Y Bancsi Bach. Mae hefyd wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau o farddoniaeth, yn eu plith, Adenydd, ac yn ddiweddar, Am yn Ail, sef cyfrol o gerddi ar y cyd â'i dad.

Cau