Dewislen
English
Cysylltwch

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gynnig ein cynllun datblygu i gyw-gynganeddwyr, Pencerdd, am y trydydd tro. Mae Pencerdd yn gynllun blwyddyn o hyd i feithrin lleisiau a safbwyntiau o bob math o fewn Cerdd Dafod. Caiff y rhaglen ei gynnig mewn partneriaeth â Chymdeithas Barddas.

Dyddiad Cau ymgeisio: 12:00 pm hanner dydd, dydd Mercher 21 Ionawr 2026 

Wyt ti’n gynganeddwr lled-newydd? Liciet ti gyfle i ganolbwyntio ar y grefft am flwyddyn? Os felly, darllen ymlaen…

Rydym yn cynnig cyfle i bum bardd ddatblygu eu sgiliau fel cynganeddwyr trwy raglen Pencerdd. Nod y cynllun hwn yw rhoi hwb i Benceirddiaid y dyfodol. Gobeithiwn y bydd y gefnogaeth ddwys yn galluogi i leisiau a safbwyntiau newydd yng nghrefft y gynghanedd ddod i’r amlwg.

Mae cynllun Pencerdd eisoes wedi cefnogi naw bardd sydd ar eu siwrne gyda’r canu caeth. Yn eu mysg mae Non Lewis, a enillodd Gadair Eisteddfod Ysgol Farddol Caerfyrddin 2024, a Mared Fflur a enillodd Gadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc 2025.

Mae’r rhaglen yn cynnig cwrs preswyl pwrpasol, cefnogaeth unigol a gweithdai dwys fydd yn mireinio sgiliau a chodi hyder y beirdd yn y grefft o gynganeddu. Y nod yw y byddant yn meithrin eu mynegiant personol eu hunain o fewn iaith Cerdd Dafod.

Bydd ein beirdd yn mynd ymlaen i eirioli dros y grefft arbennig hon, gan blannu hadau cynghanedd ymysg grwpiau a chymdeithasau eraill.

Mae’r rhaglen blwyddyn o hyd yn rhad ac am ddim, a bydd yn rhedeg rhwng Mawrth 2026 a Mawrth 2027.

 

Bydd carfan Pencerdd (y Disgyblion) yn:
  • Cychwyn ar y flwyddyn gyda chwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd rhwng dydd Llun, 30 Mawrth 2026 a dydd Gwener 3 Ebrill 2026 dan ofal y Prifeirdd Mererid Hopwood a Tudur Dylan Jones.
  • Derbyn cyfres o bedwar gweithdy cynganeddu pellach dros Zoom yn ystod blwyddyn y cynllun (Ebrill 2026 – Mawrth 2027) fydd yn edrych ar nodweddion penodol o’r grefft.
  • Cael eu paru gydag athro barddol, a byddant yn derbyn 5 sesiwn un-i-un hyd at ddwy awr dros Zoom (neu wyneb yn wyneb os yn lleol) gyda hwy.
  • Derbyn 10 sesiwn Stafell Sgwennu rhithiol, sef sesiwn anffurfiol dan arweiniad bardd gwadd; ble bydd y bardd yn darllen eu cerddi a siarad am eu taith i farddoni a chynganeddu neu yn creu gofod i’r garfan rannu eu cerddi.
  • Derbyn tanysgrifiad i gylchgrawn Barddas am flwyddyn.

Bydd cyfleoedd a gwybodaeth hefyd yn cael eu rhannu â’r garfan, e.e. gwybodaeth am Eisteddfodau lleol a chadeiriol ledled Cymru i annog y beirdd i ddatblygu eu crefft, a byddwn anelu i ddathlu cyflawniad y garfan mewn digwyddiad penllanw yn haf 2027.

 

Bydd disgwyl i feirdd Pencerdd:
  • Ymdrechu i gofrestru mewn dosbarthiadau cynganeddu lleol (neu ddigidol), i gyfoethogi’r profiad o ddysgu yn ystod y flwyddyn.
  • Ymrwymo i’r rhaglen blwyddyn o hyd gan fynychu’r sesiynau sydd wedi eu trefnu iddynt (yn cynnwys y cwrs preswyl yn Nhŷ Newydd ar ei hyd).
  • Eirioli dros y gynghanedd o fewn eu cymuned eu hunain ar ddiwedd y cyfnod er mwyn i fwy ddysgu am y gynghanedd. Gallai hyn fod ar ffurf gweithdy, sgwennu erthygl yn adrodd hanes eu blwyddyn neu drefnu talwrn. Mae croeso i bob cyfrannwr gynnig eu syniadau eu hunain.
  • Helpu Llenyddiaeth Cymru a Barddas i hyrwyddo’r cynllun a chasglu effaith drwy gynnig adborth a dyfyniadau ar gyfer astudiaethau achos, erthyglau ac ati.

 

Y Broses Ymgeisio

Mae’r broses ymgeisio yn syml:

  • Bydd yr alwad ar agor rhwng 16 Rhagfyr 2025 ac 21 Ionawr 2026
  • Bydd Panel o arbenigwyr yn dethol 5 bardd y rhaglen
  • Bydd Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi enwau beirdd cynllun Pencerdd erbyn 1 Mawrth 2026

I ymgeisio clicia ar y ddolen hon: Ffurflen gais Pencerdd

Dyma’r cwestiynau y bydd angen eu hateb:

  1. Enw, cyfeiriad ac e-bost
  2. Beth yw eich profiad o’r gynghanedd hyd yma? Er enghraifft ydych chi wedi cael rhai gwersi cynganeddu, wedi mynychu cwrs cynganeddu yng Nghanolfan Tŷ Newydd neu wedi bod yn dysgu eich hun gyda llyfrau? (dim mwy na 250 gair)
  3. Pam yr hoffech chi fod yn rhan o’r cynllun? (dim mwy na 300 gair)
  4. Sut rydych chi’n lais newydd ym myd barddoniaeth Gymraeg a’r gynghanedd yn eich barn chi? (dim mwy na 300 gair)
  5. Gyda pha gymuned y byddech chi am rannu eich dysg ar ddiwedd y flwyddyn – a sut (dim mwy na 300 gair)
  6. Cyflwynwch dair cerdd gennych (does dim angen iddynt fod mewn cynghanedd llawn)

Byddwch yn cwblhau’r cais ar system arlein Beacon. Mae’r ffurflen gais hefyd ar gael mewn fersiynau print bras a dyslecsia gyfeillgar ar Word. Os yw llenwi’r ffurflen arlein yn amhosib am unrhyw reswm, gallwch drefnu ei ebostio atom yn lle. Cysylltwch â ni i drafod: post@llenyddiaethcymru.org

 

Pwy sy’n cael ymgeisio?

Mae’r cynllun hwn yn agored i unrhyw fardd dros 18 oed sy’n lled-newydd i’r grefft o gynganeddu. Gwyddwn fod amrediad eang iawn o allu o fewn y grefft o gynghanedd – a croesawn sgwrs gyda darpar ymgeiswyr i drafod os mai dyma’r cyfle cywir i chi ar eich taith gynganeddol.

Nodwch os gwelwch yn dda na fedrwn yn anffodus dderbyn y canlynol ar y rhaglen:

  • Awduron fydd yn derbyn cefnogaeth Llenyddiaeth Cymru drwy raglenni datblygu a mentora eraill yn 2026 – 2027;
  • Myfyrwyr llawn amser;
  • Aelodau staff Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Am ragor o wybodaeth, neu am sgwrs anffurfiol am y cyfle hwn, cysylltwch â mared@llenyddiaethcymru.org

Nôl i Pencerdd