Dewislen
English
Cysylltwch
Mae’r broses ymgeisio yn syml: 
  • Bydd yr alwad ar agor rhwng 13 Rhagfyr 2024 ac 20 Ionawr 2025 
  • Bydd Panel o arbenigwyr yn dethol 5 bardd y rhaglen  
  • Bydd Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi enwau beirdd cynllun Pencerdd erbyn diwedd Chwefror 2025 
Ffurflen gais Pencerdd
Dyma’r cwestiynau y bydd angen eu hateb: 
  1. Enw, cyfeiriad ac e-bost 
  1. Beth yw eich profiad o’r gynghanedd hyd yma? Er enghraifft ydych chi wedi cael rhai gwersi cynganeddu, wedi mynychu cwrs cynganeddu yng Nghanolfan Tŷ Newydd neu wedi bod yn dysgu eich hun gyda llyfrau? (dim mwy na 250 gair) 
  1. Pam yr hoffech chi fod yn rhan o’r cynllun? (dim mwy na 300 gair) 
  1. Sut rydych chi’n lais newydd ym myd barddoniaeth Gymraeg a’r gynghanedd yn eich barn chi? (dim mwy na 300 gair) 
  1. Gyda pha gymuned y byddech chi am rannu eich dysg ar ddiwedd y flwyddyn – a sut (dim mwy na 300 gair) 
  1. Cyflwynwch dair cerdd gennych (does dim angen iddynt fod mewn cynghanedd llawn) 

Mae’r ffurflen gais ar gael mewn fersiynau print bras a dyslecsia gyfeillgar. 

Pwy sy’n cael ymgeisio? 

Mae’r cynllun hwn yn agored i unrhyw fardd dros 18 oed sy’n lled-newydd i’r grefft o gynganeddu. Gwyddwn fod amrediad eang iawn o allu o fewn y grefft o gynghanedd – a croesawn sgwrs gyda darpar ymgeiswyr i drafod os mai dyma’r cyfle cywir i chi ar eich taith gynganeddol. 

Nodwch os gwelwch yn dda na fedrwn yn anffodus dderbyn y canlynol ar y rhaglen: 

  • Awduron fydd yn derbyn cefnogaeth Llenyddiaeth Cymru drwy raglenni datblygu a mentora eraill yn 2025 – 2026; 
  • Myfyrwyr llawn amser; 
  • Aelodau staff Llenyddiaeth Cymru, Barddas a Chyngor Celfyddydau Cymru. 

Am fwy o wybodaeth, neu am sgwrs anffurfiol am y cyfle hwn, cysylltwch â mared@llenyddiaethcymru.org  

Nôl i Pencerdd