Dewislen
English
Cysylltwch

Er mwyn gwylio’r fideo gydag is-deitlau / cyfieithiad, cliciwch y botwm is-deitlau ar y fideo YouTube.

 

Mae ‘Paper roll (Teyrnged i Jack Kerouac)’ gan Jonathan Edwards ac Eeva-Maria Mutka yn gyd-ddathliad o greadigrwydd. Y mae’r darn yn archwilio dull ysgrifennu digymell Kerouac ac ymrwyniad i’r presennol – yr afon o eiriau, anadl a symudiad, a’r egni sy’n cael ei ryddhau o iaith gorfforol.

 

Artistiaid

Derbyniodd casgliad cyntaf Jonathan Edwards, My Family and Other Superheroes (Seren, 2014), Wobr Barddoniaeth Costa a Gwobr Dewis y Bobl Llyfr y Flwyddyn Cymru. Roedd ar restr fer Gwobr Casgliad Cyntaf Fenton Aldeburgh. Derbyniodd ei ail gasgliad, Gen (Seren, 2018), Wobr Dewis y Bobl Llyfr y Flwyddyn Cymru, ac yn 2019 roedd ei gerdd am Newport Bridge ar y rhestr fer ar gyfer y wobr Forward Prize ar gyfer y Gerdd Sengl Orau. Mae’n byw yn Crosskeys, De Cymru.

Mae Eeva-Maria Mutka  yn berfformiwr, gwneuthurwr ac artist dawns cymunedol o’r Ffindir. Hyfforddodd i ddechrau yn LAMDA 1989-92, ac ers hynny mae hi wedi parhau â’i datblygiad proffesiynol mewn dawns, symud somatig ac arferion sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar. Ers y 1990au mae hi wedi bod yn perfformio’n rhyngwladol mewn theatr ddawns a ffilm, gweithiau ffurf safle penodol a thraws-gelf, sinema a theledu. Yn 2020 cafodd E-M y cyfle i ddatblygu ei Chelf Symud ei hun, gyda chefnogaeth Groundwork Pro ac ACW. Gwaith perfformio cyfredol: Pneuma gan Miranda Tufnell, Sylvia Hallett a David Ward, North-Hidden Behind Darkness gyda Gaby Agis a  Lady of the Lake  gyda Michael Harvey. Ynghyd ag Andy Paget creodd yr encil greadigol wledig  p e n p y n f a r c h a’r rhaglen weithdai ‘this is somatic’ . www.eevamariamutka.com

 

Y Gerdd

 

Paper roll

Homage to Jack Kerouac 

 

 

Fingers on paper

The tip-tap of fingers

The crackle of paper

The muzak of birdsong

Day coming in through the world, through the window,

sparks flying in through a hole in the morning

 

Once, in a room,

a man ran his fingers over the letters

The paper that stretched from here to next Thursday,

full with the sounds that he hadn’t made up yet

The man in training to become a hero,

wiping his brow and flinging an arm out,

smashing an s down to make of this moment

something

 

Roll up the past, roll up the future

till one’s small enough to fit into this cupboard

and carry the other out in your knapsack

and smuggle it somewhere, over a border

 

Once, in a room, a man at a table

in the same time as the world through the window

and all of his past was stretched out before him

He tip-taps the words on the sides of his thinking

 

What do you hide when you hide behind paper?

What do you step on when you step on something?

This is the crinkle-crackle of paper,

sparks coming in through an eye or a lughole

 

Once, in a room,

a man just going, when where’s a direction

This is the sound of his tip-tapping thinking

This is the sound of his hand-me-down breathing

It megaphones here

and out in the world there’s a hole in the morning

and out in the world there’s a backfiring now 

Jonathan Edwards

 

//

 

Rholyn papur 

Teyrnged i Jack Kerouac

 

Bysedd ar bapur

Tip-tap y bysedd

Clindarddach y papur

Muzak cân yr adar

Daw’r dydd i mewn drwy’r byd, drwy’r ffenest,

gwreichion yn hedfan drwy dwll yn y bore

 

Unwaith, mewn ’stafell,

byseddai dyn lythrennau

A’r papur yn ymestyn o fan hyn i ddydd Iau nesa,

â’i lond o’r seiniau roedd heb eto’u creu

Dyn dan hyfforddiant i fod yn arwr,

yn sychu’i dalcen, yn sythu’i fraich yn wyllt,

yn pwnio’r ‘r’ i wneud rhywbeth

o’r ennyd hwn

 

Rholiwch y gorffennol, rholiwch y dyfodol

nes bod y naill yn gallu ffitio i’r cwpwrdd hwn

a bod modd cario’r llall yn dy sgrepan

a’i smyglo dros y ffin i rywle

 

Un tro, mewn ’stafell, bu dyn wrth fwrdd

yn gyfamserol â’r byd drwy’r ffenest

a’i orffennol i gyd yn gynfas o’i flaen

Dyma fo’n tipian geiriau ar ymylon y meddwl

 

Beth ŷch chi’n celu wrth guddio mewn papur?

Beth ŷch chi’n sathru wrth droedio unrhywbeth?

Dyma glindarddach papur yn crychu,

gwreichion yn dod mewn drwy’r lygad neu’r glust

 

Un tro, mewn ’stafell,

dyn ar gychwyn, a ble? yn nod iddo

Dyma sŵn tipian ei feddwl yn troi

Dyma sŵn ei anadlu ail-law

Mae’n diasbedain yma

a draw’n y byd mawr, mae ’na dwll yn y bore

draw’n y byd mawr, mae’na rwan sy’n tanio ar dri

 

Jonathan Edwards,
Cyfieithiad Cymraeg gan Ifor ap Glyn
Nôl i Preifat: Plethu/Weave