Dewislen
English
Cysylltwch

Bydd y rhaglen yn dechrau ym mis Medi 2023 ac yn rhedeg tan fis Medi 2024.

 

Beth fydd y rhaglen yn ei olygu?

  • Cyfarfod croeso un-i-un ar-lein gyda staff Llenyddiaeth Cymru i drafod amcanion personol; a cyfarfod grŵp ar gyfer y chwe hwylusydd llwyddiannus i gyflwyno pawb i’w gilydd ac i roi trosolwg o’r rhaglen.
  • Paru pob hwylusydd gyda mentor am bedwar sesiwn un-i-un yn ystod y flwyddyn i’w helpu i gyrraedd eu hamcanion ac i ddatblygu eu prosiectau.
  • Un cwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.
  • Cyfres o bum sesiwn hyfforddi ar-lein gyda hwyluswyr profiadol ac arbenigwyr ar y celfyddydau ar gyfer iechyd a llesiant.
  • Gohebu cyson gan Llenyddiaeth Cymru am gyfleoedd, digwyddiadau, gwyliau a mwy, a chefnogaeth broffesiynol gan Llenyddiaeth Cymru i ddatblygu cynllun prosiect.
  • Creu rhwydwaith cefnogol o gyd-hwyluswyr, dan arweiniad y garfan, i gynnig anogaeth gan gymheiriaid ac i ddatrys problemau.
  • Ysgoloriaeth o £2,000 i dreulio amser yn datblygu prosiectau, ac i helpu gyda threuliau neu ymarferoldeb mynychu gweithgareddau craidd y rhaglen, e.e. teithio i Dŷ Newydd, gofal plant ac ati.

Yn ystod y chwe mis cyntaf (Medi 2023 – Mawrth 2024), bydd y chwe cyfranogwyr yn treulio peth amser yn datblygu prosiect o’u dewis yn cynnwys cynllun gweithredu manwl, gan gymhwyso’r hyn y maent wedi’i ddysgu yn ystod y sesiynau hyfforddi. Rydym yn bwriadu i’r prosiectau hyn, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru, gael cyllid pellach i’w cyflawni yn ystod hanner olaf y rhaglen (Mawrth 2024 – Medi 2024) – os bydd cyllid a phartneriaethau’n caniatáu.

Eisiau gwybod mwy?

Os oes gyda chi ddiddordeb clywed mwy am y cyfle hwn neu rai tebyg, mae croeso i chi gysylltu â ni, neu tanysgrifiwch i’n cylchlythyr a’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.

Nôl i Sgwennu’n Well