Dewislen
English
Cysylltwch
Mae Sgwennu’n Well | Writing Well yn rhaglen 12 mis mewn dwy ran ar gyfer ymarferwyr llenyddol yng Nghymru. Mae rhan un yn cynnig hyfforddiant dwys gyda’r nod o wella’r sgiliau sydd eu hangen i hwyluso gweithgareddau llenyddol yn y gymuned. Bydd rhan dau yn cefnogi’r garfan o hwyluswyr i greu a chyflwyno prosiectau cyfranogi sydd o fudd i iechyd a llesiant y cyfranogwyr. Darllen mwy am y rhaglen.
Kittie Belltree
Yn mentora: Sian Elizabeth Hughes
Mwy
Dr Tracy Breathnach
Yn mentora: Emma Smith-Barton
Mwy
Cecilia Knapp
Yn mentora: Steffan Phillips
Mwy
clare.e.potter
Yn mentora: Helen McSherry
Mwy
Christina Thatcher
Yn mentora: Lottie Williams
Mwy
Iola Ynyr
Yn mentora: Elan Grug Muse
Mwy
Kittie Belltree
Yn mentora: Sian Elizabeth Hughes

Magwyd Kittie Belltree yn ne Llundain ac mae hi wedi byw yng ngorllewin Cymru ers 35 mlynedd. Cyhoeddwyd ei chasgliad barddoniaeth cyntaf, Sliced Tongue and Pearl Cufflinks, yn 2019 (Parthian) ac mae ei straeon byrion a’i hadolygiadau wedi ymddangos mewn nifer o flodeugerddi fel The Brown Envelope Book (Caparison, 2021) a Cast a Long Shadow (Honno) sydd i’w gyhoeddi yn 2022. Yn ogystal â’i gwaith ysgrifennu, mae hi’n gweithio fel hwylusydd gweithdai, yn darparu prosiectau creadigol er budd llesiant mewn ysgolion a chymunedau ac fel Tiwtor Arbenigol ar gyfer myfyrwyr niwroamrywiol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ddiweddar, cwblhaodd PhD mewn archwilio cynrychioliadau ieithyddol o drawma. Mae hi hefyd yn cymryd rhan yn Equal Power Equal Voice, rhaglen draws-gydraddoldeb sy’n cynyddu amrywiaeth cynrychiolaeth mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol.

Twitter (X): @KittieBelltree

Cau
Dr Tracy Breathnach
Yn mentora: Emma Smith-Barton

Mae Dr Tracy Breathnach yn awdur, yn artist perfformio ac yn hyfforddwr lles. Mae'n gweithio ledled Cymru a thu hwnt fel ymgynghorydd Celfyddydau ac Iechyd, gan gynnwys gweithio fel Rheolwr Rhaglen rhan-amser ar gyfer Rhwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Lles Cymru (WAHWN). Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y celfyddydau cymunedol fel hwylusydd a rheolwr celfyddydau. Ers 2017 mae ei ffocws wedi bod yn bennaf ar y celfyddydau ac iechyd meddwl. Roedd ei hymchwil PhD yn seiliedig ar ymarfer ac yn canolbwyntio ar adrodd straeon hunangofiannol ymgorfforedig o straeon geni, yn enwedig pan fo profiad o drawma - sut mae adrodd ein straeon heb eiriau? Roedd yn seiliedig ar ei phrofiad bywyd ei hun o drawma geni. Mae hi'n gyfarwyddwr cwmni hyfforddi, Break Free & Thrive, yn gweithio 1 i 1 gyda chleientiaid, yn ogystal â chynnal cyrsiau datblygiad personol. Yn wreiddiol o Iwerddon, mae Tracy wedi byw yng Nghymru ers bron i 18 mlynedd, bellach yn byw ym Mhorthcawl gyda'i 2 fab.

LinkedIn: Dr Tracy Breathnach
X/Instagram: @trebreathnach
Gwefan: www.tracybreathnach.com | www.breakfreeandthrive.co.uk

Cau
Cecilia Knapp
Yn mentora: Steffan Phillips

Mae Cecilia Knapp yn fardd a nofelydd a hi oedd Bardd Llawryfog Pobl Ifanc Llundain 2020/2021. Cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer gwobr Forward 2022 am y gerdd unigol orau. Enillodd wobr Ruth Rendell yn 2021, ac mae wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Menywod Rebecca Swift a Gwobr Barddoniaeth Outspoken. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, ‘Peach Pig’ gan Corsair yn 2022, ac roedd yn lyfr y mis gan yr Observer yn yr Hydref. Mae ei cherddi wedi ymddangos yn The Financial Times, Granta, The White Review, Wasafiri, Popshot, Ambit, Magma a bath magg. Curadodd yr antholeg ‘Everything is Going to be alright: Poems for When you Really Need Them’ a gyhoeddwyd gan Trapeze yn 2021. Cyhoeddir ei nofel gyntaf ‘Little Boxes’ gan The Borough Press (Harper Collins). Yn 2023, cyrraeddodd ittle Bozes rhestr hir Gwobr Nofel Gyntaf The Author’s Club. Mae'n dysgu ysgrifennu creadigol mewn amrywiaeth o leoliadau. Bu’n fardd preswyl yn Ysbyty Great Ormond Street am ddwy flynedd ac mae’n diwtor arweiniol ar gyfer cydweithfa farddoniaeth fawreddog y Roundhouse.

Twitter (X): @ceciliaknapp
Gwefan: https://ceciliaknapp.com/

Cau
clare.e.potter
Yn mentora: Helen McSherry

Bardd a darlledwr dwyieithog yw clare e. potter. Mae ei gwobrau’n cynnwys dwy Ysgoloriaeth i Awduron Llenyddiaeth Cymru, Gwobr John Tripp am Farddoniaeth Lafar a Gwobr Jim Criddle am ddathlu’r Gymraeg. Mae hi wedi cyfieithu gwaith Bardd Cenedlaethol Cymru, wedi bod yn Awdur ar Waith Gŵyl y Gelli ac wedi perfformio yng Ngŵyl Werin y Smithsonian, UDA. Bu hefyd yn astudio ac yn dysgu yn New Orleans am ddegawd. Mae ei ffocws presennol ar lesiant a dysgu trwy fyd natur ac mae hi wedi cael sawl cyfnod preswyl a chomisiwn i greu gwaith o amgylch y themâu hyn. Diolch i gyllid Cyngor y Celfyddydau, mae clare yn dysgu ymarfer therapi barddoniaeth. Ysgrifennwyd ei hail gasgliad gyda chefnogaeth bwrsariaeth gan Llenyddiaeth Cymru a grant gan Gymdeithas yr Awduron a bydd yn cael ei gyhoeddi yn 2024.

Twitter (X): @clare_potter
Gwefan: https://egjdad.wixsite.com/clareawenydd

Cau
Christina Thatcher
Yn mentora: Lottie Williams

Mae Christina Thatcher yn awdur ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei hymchwil presennol yn archwilio sut y gall ysgrifennu creadigol effeithio ar fywydau pobl sydd mewn profedigaeth oherwydd dibyniaeth. Mae Christina hefyd yn Olygydd Barddoniaeth i The Cardiff Review ac yn hwylusydd gweithdai llawrydd. Mae ei barddoniaeth a’i straeon byrion wedi ymddangos mewn dros 40 o gyhoeddiadau gan gynnwys The London Magazine, Planet Magazine a The Interpreter’s House. Cyrhaeddodd ei chasgliad cyntaf, More than you were, restr fer Cystadleuaeth Casgliad Barddoniaeth Debut Bare Fiction yn 2015 ac fe’i cyhoeddwyd gan Parthian Books yn 2017.

Twitter (X): @writetoempower
Gwefan: https://christinathatcher.com/

Cau
Iola Ynyr
Yn mentora: Elan Grug Muse

Mae Iola yn awdures, dramodwraig, cyfarwyddwraig a hwylusydd gweithdai cyfranogol. Mae’n angerddol dros hyrwyddo llesiant unigolion a chymunedau trwy greadigrwydd wrth gysylltu gyda’r byd naturiol. Mae ei phrosiectau cyfranogol yn cynnwys Ar y dibyn, prosiect gan Theatr Genedlaethol Cymru ar gyfer unigolion sydd yn byw gyda dibyniaeth, Gwledda i Llenyddiaeth Cymru yn hyrwyddo llesiant wrth wynebu newid hinsawdd ynghyd â MWY, prosiect creadigol i ferched a'r rhai sydd yn uniaethu yn fenywaidd . Sefydlodd Ynys Blastig gyda grŵp o artistiaid sy’n gweithredu trwy ‘nudges’ celfyddydol a Cylchdro gyda Sioned Medi, i leisio profiadau benywaidd o’r byd. Llwyfanwyd 'Ffenast Siop' gan Theatr Bara Caws yn ddiweddar, drama y cyd-ysgrifennodd Iola gyda Carys Gwilym.

Facebook: Iola Ynyr
Instagram: @IolaYnyr

Cau