Dewislen
English
Cysylltwch

Ysgrifennu Ffuglen: Cwestiynau Cyffredin

Pwy sy'n gymwys i wneud cais am y cyfle hwn?

Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn ac yn byw yng Nghymru.  

Mae’n rhaid i chi allu ymrwymo’n llawn i fynychu’r cwrs cyfan yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd o 5.00pm ddydd Llun 24 Tachwedd – 10.00am ddydd Gwener 28 Tachwedd 2025. 

Ar gyfer y cwrs hwn, rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd heb gynrychiolaeth deg yn ein cymdeithas ac o fewn y byd cyhoeddi a gair llafar yng Nghymru. Gellir defnyddio’r rhestr ganlynol fel canllaw, er y byddwn yn eich gwahodd i egluro yn eich geiriau eich hun pam eich bod yn gwneud cais am y cyfle hwn: 

  • Perthyn i gymunedau Sipsiwn, Roma a/neu Deithwyr   
  • O gefndir incwm iselMae ein meini prawf ar gyfer cefndir incwm isel yn cynnwys unigolion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, neu yr oedd eu rhieni mewn swyddi cyflog isel, yn ddi-waith, neu’n derbyn budd-daliadau (gan gynnwys lwfansau anabledd) pan oedd yr ymgeiswyr yn 14 oed. 
  • Byddar a/neu drwm eu clyw 
  • LHDTC+   
  • Niwroamrywiol- Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: Awtistiaeth, ADHD, Dyslecsia, Dyspracsia, Syndrom Tourette ac OCD 
  • Pobl o gefndir Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig  
  • Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches 
  • Unigolion sy’n byw gydag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor, h.y. wedi parhau neu y disgwylir i barhau am o leiaf 12 mis ac yn cael effaith andwyol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.   
Ym mha iaith y bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno?

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg. Fodd bynnag, bydd y sgiliau a’r grefft y byddwch yn eu dysgu ar y cwrs yn berthnasol i’ch ffurf gelfyddydol ym mha bynnag iaith rydych chi’n eu defnyddio

A oes angen profiad arnaf i ymgeisio? Neu ydw i'n rhy brofiadol?

Rydym yn chwilio’n bennaf am awduron/perfformwyr llafar sy’n dod i’r amlwg ac yng nghanol eu gyrfa sydd â photensial  

Beth mae egin awduron ac awduron yng nghanol eu gyrfa yn ei olygu?

Efallai bod egin awduron wedi cael straeon byrion unigol wedi’u cyhoeddi mewn blodeugerddi neu gylchgronau. Efallai bod awduron yng nghanol eu gyrfa wedi cael un cyhoeddiad annibynnol. Rydym yn croesawu ceisiadau gan awduron sydd wedi cael eu cyhoeddi mewn genre arall ac a hoffai archwilio ysgrifennu ffuglen.

Rydym yn sylweddoli nad yw hwn yn ddisgrifiad gynhwysfawr o ble y gallech fod ar eich taith ysgrifennu bresennol.

Os nad ydych yn siŵr ai dyma’r cwrs cywir i chi, cysylltwch â ni i drafod.  

Beth sydd yn y ffurflen gais?

Gofynnir i chi ateb tri chwestiwn sy’n canolbwyntio ar: 

  • Eich profiad ysgrifennu 
  • Eich uchelgeisiau ysgrifennu 
  • Pam mae’r cwrs hwn yn addas i chi 

Bydd gofyn i chi hefyd gyflwyno 1,000 o eiriau o ffuglen neu recordiad fideo o’ch gwaith creadigol hyd at ddwy funud o hyd. 

Gwnewch gais ar-lein yma. Neu mae fersiynau print bras a chyfeillgar i ddyslecsia o’r ffurflen gais ar gael ar y dudalen Ysgrifennu Ffuglen. 

Pa genre alla i ei gyflwyno?

Dim ond ffuglen sy’n gymwys ar gyfer y cwrs hwn. Nid yw sgriptiau, barddoniaeth, ffeithiol greadigol, ysgrifennu i blant a phobl ifanc, a chomics yn gymwys.  

Os ydych chi’n ansicr a yw eich gwaith creadigol yn gymwys, cysylltwch i drafod. 

A oes cost ar gyfer y cwrs hwn?

Na. Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau yn Nhŷ Newydd angen ffi i’w mynychu, ond cynigir rhywfaint o’n gweithgarwch mwy strategol yn rhad ac am ddim i unigolion drwy broses ymgeisio gystadleuol. Darperir llety ac arlwyo drwy gydol yr wythnos. Fodd bynnag, bydd angen i chi ystyried costau teithio i’r ganolfan ac oddi yno. Os yw hyn yn mynd i fod yn rhwystr i fynychu, byddwn yn eich gwahodd i gysylltu â ni i drafod cyn i’r cwrs ddechrau 

A allwch roi mwy o wybodaeth ymarferol i mi am y Ganolfan a'm hymweliad?

Wedi’i leoli yng Ngwynedd, mae Tŷ Newydd wedi’i leoli rhwng y môr a’r mynyddoedd – llai na deng munud mewn car o Barc Cenedlaethol Eryri a Phen Llŷn sy’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol swyddogol. Gallwch ddysgu mwy am Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol Llenyddiaeth Cymru, Tŷ Newydd, ar ein gwefan. Yma gallwch bori trwy luniau a blogiau a ysgrifennwyd gan gyfranogwyr blaenorol. 

Ar gyfer y cwrs hwn, gwahoddir yr awduron i gyrraedd rhwng 2.00 pm a 5.00 pm ddydd Llun 24 Tachwedd 2025, a bydd y cwrs yn dod i ben ar ôl brecwast, tua 10.00am, ddydd Gwener 28 Tachwedd. Edrychwch ar ein gwefan am wybodaeth teithio. Gallwn helpu gyda theithio o orsafoedd trenau (Cricieth neu Fangor) – a byddwn yn darparu mwy o wybodaeth am deithio’n agosach at yr amser. 

Bydd yr ysgrifenwyr yn cael ystafell wely yr un. Mae rhai ystafelloedd gwely yn ensuites, ac mae gan eraill ystafelloedd ymolchi a rennir. Bydd ystafelloedd gwely yn cael eu dyrannu ar hap, ac eithrio ystafelloedd gwely hygyrch. 

Bydd yr holl brydau bwyd yn cael eu darparu i chi gan ein cogydd preswyl, gan gynnwys brecwast hunan-wasanaeth, cinio bwffe, pryd nos gyda phwdin, a byrbrydau cartref. Gallwn ddarparu ar gyfer y rhan fwyaf o ofynion dietegol ac alergeddau bwyd. 

Gobeithiwn y cewch ddigon o amser rhydd i fwynhau’r ardal a’r ganolfan ysgrifennu. Ond gofynnwn yn garedig i chi fynychu’r holl weithgareddau a drefnir fel rhan o’r cwrs. Bydd amserlen fanwl yn cael ei darparu. 

Beth fydd yn digwydd yn ystod y cwrs ei hun?

Bydd amserlen fanwl o weithgaredd yn cael ei rhannu gyda chi cyn i’r cwrs ddechrau. Bydd yr wythnos yn cynnwys: 

  • gweithdai grŵp
  • trafodaethau grŵp
  • sgyrsiau gan arbenigwyr y diwydiant
  • sgyrsiau un-i-un gyda’r tiwtoriaid
  • amser rhydd i rwydweithio, cymdeithasu a mwynhau’r ardal leol
  • a digwyddiad dathlu olaf yn cynnwys perfformiadau gennych chi, y garfan, o waith a ddatblygwyd yn ystod yr wythnos
A fydd yn rhaid i mi ddarllen neu berfformio trwy weithio'n uchel?

Bydd. Bydd hyn yn elfen allweddol o’r cwrs hwngan ganolbwyntio ar lafar a pherfformiad. Fodd bynnag, bydd y tiwtoriaid a’r staff yn gweithio’n galed i greu lle sy’n teimlo’n ddiogel, yn galonogol ac yn gefnogol i annog eich datblygiad a’ch hyder. 

Mae gennyf anabledd neu gyflwr iechyd a allai ei gwneud yn anodd i mi gymryd rhan, allwch chi helpu?

Rydyn ni yma i helpu. Mae tîm Llenyddiaeth Cymru ar gael i drafod unrhyw bryderon a gofynion cyn a thrwy gydol y rhaglen. Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Mae Cronfa Fynediad ar gael i alluogi cyfranogiad llawn mewn digwyddiadau i awduron ag anableddau neu salwch a allai fod â gofynion mynediad ychwanegol.  

I gael gwybodaeth am hygyrchedd yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, ewch i wefan Tŷ Newydd. 

Pryd byddaf yn clywed a yw fy nghais wedi bod yn llwyddiannus?

Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am y canlyniad erbyn canol mis Hydref 2025. 

Oes byddaf yn aflwyddiannus, a fyddaf yn cael adborth?

Gan ein bod yn disgwyl nifer uchel o geisiadau, efallai na fyddwn yn gallu darparu adborth manwl ar gyfer pob ymgeisydd. Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i ddarparu adborth byr, personol i bob ymgeisydd a lle bo’n berthnasol, rhoi cyngor ar gyfleoedd eraill a allai fod ar gael gan Llenyddiaeth Cymru a phartneriaid.  

Rydym yn ymwybodol y gall gohebiaeth ynghylch ceisiadau aflwyddiannus gael effaith negyddol ar eich iechyd a’ch lles. Rhoddwn ein haddewid i barchu a gwerthfawrogi pob cais unigol, gan roi ystyriaeth a sylw dyledus iddo.  

Beth fydd yn digwydd ar ôl i’r cwrs ddod i ben?

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yn natblygiad yr awduron a’r perfformwyr ar ôl i’r cwrs ddod i ben.  Bydd staff yn parhau i gysylltu â’r grŵp, ac yn rhannu cyfleoedd pan fyddant yn codi. 

Nôl i Ysgrifennu Ffuglen