Dewislen
English
Cysylltwch

I wneud cais, llenwch y ffurflen gais hon drwy’r porth ar-lein. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen help arnoch i ddefnyddio’r porth, cysylltwch â ni. Bydd aelod o’r tîm yn hapus i helpu.

Bydd ein ffurflen gais yn gofyn cwestiynau i chi am: 

  • Eich cymhwyster
  • Eich profiad ysgrifennu
  • Eich uchelgeisiau ysgrifennu
  • Sut y byddai’r cwrs hwn yn eich helpu ar y pwynt hwn o’ch gyrfa.

Byddwn yn eich gwahodd i gyflwyno 1,000 o eiriau o ffuglen neu fideo o’ch gwaith creadigol hyd at ddwy funud o hyd. Os ydych chi’n cyflwyno perfformiad fideo, anfonwch ddolen WeTransfer i post@llenyddiaethcymru.org. Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais hefyd. 

Am wybodaeth ychwanegol am gymhwystra, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin, neu lawrlwythwch fersiwn hygyrch o’r dudalen Lawrlwytho.

I’ch helpu i baratoi eich cais, gallwch lawrlwytho’r ffurflen gais i ddarllen y cwestiynau ymlaen llaw. Mae Fersiwn Dyslecsia Gyfeillgar a Phrint Bras hefyd ar gael. Os byddai’n well gennych lenwi un o’r ffurflenni hyn yn hytrach na’r ffurflen gais arlein, anfonwch eich ffurflen i post@llenyddiaethcymru.org ynghyd â’ch enghraifft o waith creadigol. 

Fel arall, anfonwch e-bost at Llenyddiaeth Cymru ar post@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch am sgwrs: 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd) 

Nôl i Ysgrifennu Ffuglen