Cyfleoedd
Croeso i dudalen cyfleoedd Llenyddiaeth Cymru, sydd yn cynnwys casgliad o gyfleoedd llenyddol mewnol ac allanol, o gystadlaethau i breswyliadau, o Gymru a thu hwnt. Pe hoffech i ni hyrwyddo unrhyw gyfle ar eich rhan, ebostiwch ni: post@llenyddiaethcymru.org
Cyfleoedd Llenyddiaeth Cymru
Bardd Plant Cymru – 16 Mawrth
Wyt ti’n fardd sydd wrth dy fodd yn gweithio gyda phlant? Wyt ti’n credu yng ngrym llenyddiaeth i ysbrydoli, gwella a chyfoethogi bywydau – yn enwedig bywydau pobl ifanc? Wyt ti’n awyddus i ddathlu a chynrychioli ieuenctid Cymru – eu dyheadau a’u hawliau – ar lwyfannau cenedlaethol? Yna rydyn ni am glywed gennyt ti!
I ddarllen yr alwad agored a lawrlwytho’r pecyn recriwtio, clicia ar y ddolen hon.
Children’s Laureate Wales – 16 Mawrth
Mae ceisiadau ar gyfer Children’s Laureate Wales 2023-2025 nawr ar agor!
Am fwy o wybodaeth, clicia ar y ddolen hon.
Swyddi
Ffilm Cymru: Rheolwr Cynaliadwyedd – 13 Chwefror
Rydym yn chwilio am Rheolwr Cynaliadwyedd at arwain ar raglen ‘Cymru Werdd’ Ffilm Cymru – cyfle unigryw i gefnogi gweithwyr proffesiynol y sector sgrin i gyflawni allyriadau carbon sero-net erbyn 2050.
Cyfnod: Amser llawn (cefnogir gweithio hyblyg)
Cyflog: £27-£33k y flwyddyn
Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru: Swyddog Datblygu – 13 Chwefror
Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn awyddus i benodi codwr arian profiadol i weithio gyda’r Pennaeth Datblygu er mwyn helpu i gyflwyno strategaeth codi arian y cwmni. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar draws bob agwedd ar godi arian, gyda phwyslais penodol ar sicrhau incwm grant a datblygu rhoddion unigol, a gyda phob adran er mwyn pennu blaenoriaethau codi arian a cheisio rhagolygon addas er mwyn sicrhau cymorth ariannol i’r cwmni.
Contract cyflogaeth barhaol. Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr a hoffai weithio un ai’n llawn amser (37.5 awr) neu ran amser. Cyflog £26,000 (cyfwerth â llawn amser)
Cliciwch y ddolen hon ar gyfer mwy o wybodaeth.
Galwadau
Cyngor Celfyddydau Cymru: Camau Creadigol – 28 Chwefror (Diwrnod olaf pob mis)
Mae Camau Creadigol yn canolbwyntio ar y rhai sy’n nodi eu bod yn ethnig ac yn ddiwylliannol amrywiol, wedi profi hiliaeth neu wahaniaethu, a phobl Fyddar, anabl a/neu niwroamrywiol.
Gallwch wneud cais am y maes Unigol os ydych chi’n artist neu’n berson creadigol sy’n nodi eu bod yn amrywiol yn ethnig ac yn ddiwylliannol, yn Fyddar, anabl a/neu niwroamrywiol, neu fel rhywun sydd wedi profi hiliaeth neu wahaniaethu.
Gallwch wneud cais am y maes Sefydliadau os yw eich sefydliad yn cael ei arwain gan bobl sy’n ethnig a diwylliannol amrywiol, pobl Fyddar, anabl a/neu niwroamrywiol, neu bobl sydd wedi profi hiliaeth neu wahaniaethu.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau i’r rhaglen Camau Creadigol yw diwrnod olaf pob mis. Cliciwch yma i wybod mwy.
Hack Publishing – Parhaus
Mae Hack Publishing yn chwilio am 10 awdur i ymuno ar brosiect cyffrous fydd yn archwilio gwaith nawr, a diwylliant gwaith yn y dyfodol. Bydd y prosiect ar ffurf casgliad o draethodau gyda 10 persbectif gwahanol, er ein bod yn annog awduron i arbrofi gyda genre.
Yn ogystal, maent yn chwilio am awduron i gyfrannu at eu rhifyn newydd o’r cylchgrawn. Gwytnwch yw thema’r rhifyn cyntaf. Gall awduron anfon gwaith o unrhyw genre hyd at 3,500 o eiriau. Dyma gyfle i awduron newydd weld eu gwaith wedi ei gyhoeddi ar y cyd ag eraill.
Mae’r manylion llawn draw ar eu gwefan.
Wasafiri: Galwad am Bapurau a Gwobr Traethawd – Parhaus
Mae Wasafiri yn agored ar gyfer cyflwyniadau o erthyglau a thraethodau beirniadol, adolygiadau, a chyfweliadau ar bwnc llenyddiaeth gyfoes. Mae gwybodaeth am y broses gyflwyno ar gael yma.
Dyfernir Gwobr Traethawd Wasafiri i’r traethawd gorau o 5000-8000 o eiriau gan ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa ar bwnc llenyddiaeth gyfoes ryngwladol. Dylid cyflwyno ceisiadau trwy borth cyflwyno Wasafiri wrth ddewis yr opsiwn i’w ystyried ar gyfer y wobr. Bydd yr enillydd yn derbyn £250, cyhoeddiad ei draethawd, sesiwn fentora, a thanysgrifiad blynyddol i Wasafiri.
Mae mwy o fanylion am Wobr Traethawd Wasafiri ar gael yma.
Cystadlaethau
Eisteddfodau – Parhaus
Cynhelir nifer o Eisteddfodau ar draws Cymru ar hyd y flwyddyn, ble mae modd cystadlu mewn cystadlaethau llenyddol.
Gellir gweld y dyddiadau cau yma, neu ragor o wybodaeth yn fan hyn.