Dewislen
English
Cysylltwch

Teitl y prosiect: Morfil Trelluest

Cyfranogwyr: Trigolion Trelluest

Artist arweiniol: Hammad Rind

Artistiaid cefnogol: Charlotte Brown, Chris House

 

Nod y prosiect:

Nod y sesiynau oedd defnyddio celf – ysgrifennu creadigol a phaentio – er budd trigolion Trelluest sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl neu deimladau o berthyn fel aelodau o gymunedau diasporig.

Nod y sesiynau ysgrifennu creadigol oedd cysylltu cyfranogwyr â’u hamgylchedd a’u gwahodd i dynnu ysbrydoliaeth o deithiau cerdded ar hyd y Taf.

Creodd yr artist, Chris House, fodel mawr o Forfil Trelluest wedi’i addurno mewn clytwaith o ffabrigau o gymunedau diasporig Trelluest megis y Punjabi / Sindhi Ajrak, patrymau gwehyddu Somalïaidd, a phatrwm blancedi Cymreig. Gwahoddwyd y cyfranogwyr i baentio dyfyniadau ysbrydoledig ar y morfil. Cafodd y morfil ei arddangos yn Sw Grangetown i’r holl breswylwyr ei fwynhau. Y nod oedd creu partneriaeth rhwng 4Winds a Llwybr Celf Trelluest gyda gweithdai ysgrifennu therapiwtig a chelf yn ailddigwydd fel rhan o Sw Trelluest flynyddol.

 

 

Gwybodaeth am y prosiect:

Cynhaliwyd cyfres o bedwar gweithdy ysgrifennu creadigol yn mynd i’r afael â syniadau o berthyn yn Nhrelluest, mewn partneriaeth â 4Winds a Llwybr Celf Trelluest. Cawsant eu targedu at unigolion â brwydrau iechyd meddwl ac roedd ganddynt ffocws arbennig ar aelodau o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn Nhrelluest. Mewn pumed gweithdy, rhoddwyd cyfle i gyfranogwyr gyfrannu’n artistig tuag at osodiad ar gyfer Sw Trelluest.

Roedd y gweithdai yn seiliedig ar stori Morfil Trelluest, a wnaeth ei ffordd i fyny’r Afon Taf ac i mewn i Drelluest, a’r teimladau o bryder, unigrwydd, ac anesmwythyd a brofwn pan fyddwn yn teimlo nad ydym yn perthyn. Rodd y sesiwn ysgrifennu olaf yn canolbwyntio ar hawlio lle i ni ein hunain, a chaniatáu i’n hunain berthyn. Nod y sesiynau oedd defnyddio’r adnodd naturiol pwerus, y Taf, fel ysbrydoliaeth ar gyfer iachâd a grymuso.


Bywgraffiad artist:

Ganed Hammad Rind ym Mhwnjab, Pacistan, ac ar hyn o bryd mae’n byw yng Nghaerdydd. Disgwylir i’w nofel gyntaf, Four Dervishes, sy’n nofel ddychan cymdeithasol wedi’i seilio ar dastan gan y bardd Persiaidd, Amir Khosrow, gydag elfennau o realaeth hud, gael ei chyhoeddi gan Seren yn ystod haf 2021. Mae wedi arwain nifer o weithdai ysgrifennu gan gynnwys ar gyfer Gŵyl Farddoniaeth Seren ac un arall ar adrodd straeon i blant yng Nghaerdydd. Mae ei waith wedi ymddangos mewn nifer o gyhoeddiadau gan gynnwys The Madras Courier, James Joyce Broadsheet, Y Stamp a Porridge Magazine. Mae Hammad yn siarad naw iaith, ac mae’n ymgorffori elfennau o’r gwahanol ieithoedd hyn yn ei waith.

 

“Â minnau yn dod o Bacistan, bu’n rhaid i mi addasu i fyw yn y DU ar fy mhen fy hun, gan wybod pa mor unig a dirdynnol y gall hynny fod mewn lle anghyfarwydd. Rwy’n credu bod cyfatebiaeth Morfil Trelluest yn canfod ei hun mewn amgylchedd anghyfarwydd ac annynol yn un sydd yn canu cloch gyda llawer o bobl eraill.

Rwy’n gobeithio y bydd y prosiect hwn yn grymuso cyfranogwyr i deimlo ymdeimlad o berthyn a pherchnogaeth o’r lleoedd y maen nhw’n byw ynddynt, gan dynnu iachâd ac ysbrydoliaeth o’r natur yn afon Taf.”

Nôl i Gwaith Comisiwn i Awduron #3