Her 100 Cerdd #37: Tic Toc
Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019
Tic-toc, tic-toc,
mae amser yn rhedeg drwy fysedd y cloc,
sdim un eiliad yn eistedd ac aros yn llonydd,
maen nhw’n powlio a rowlio a rhedeg i’w gilydd
mae Awen ar goll, wedi dianc o’r tŷ
a neb adre nawr, neb, heblaw fi.
Tic-toc, tic-toc,
fe dasgodd munudau dros ymyl y cloc,
glanio’n garlibwns a chreu llanast mawr
pendilio yn feddwol ar ganol y llawr
yr unig sŵn glywyd oedd y drws yn cael slam
a sŵn sgidiau Awen yn pellhau gam wrth gam
Tic-toc, tic-toc
mae’r oriau yn llifo dros wyneb y cloc
a dim yn tycio, dim oll yn tocio,
mae Awen ’di gadael, ei bag wedi’i bacio,
a sdim gobaith caneri y daw hi ’nôl,
mae Awen ’di mynd, dim ond fi sydd ar ôl.
– Elinor Wyn Reynolds, 9.21 pm