Dewislen
English
Cysylltwch

Addysgeg Rheiddiol: Adlewyrchu ar faes llafur LUMIN, ‘Adennill Ein hymwybyddiaeth ar y Cyd’

Cyhoeddwyd Maw 16 Maw 2021 - Gan Beau W Beakhouse
Addysgeg Rheiddiol: Adlewyrchu ar faes llafur LUMIN, ‘Adennill Ein hymwybyddiaeth ar y Cyd’
Gyda’i gilydd mae Beau W. Beakhouse a Sadia Pineda Hameed yn ffurfio LUMIN, grŵp celfyddydol a gwasg fechan sy’n ceisio llwyfannu, creu deialogau a chydweithio â lleisiau creadigol amrywiol ac ymylol o Gymru a thu hwnt. Fel rhan o waith Llên ers Lles Llenyddiaeth Cymru, mae LUMIN wedi rhedeg gweithdai ysgrifennu creadigol i archwilio hunanfynegiant, ‘Adennill Ein hymwybyddiaeth ar y Cyd’. Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael yma.

Yn ei llyfr Teaching Community: A Pedagogy of Hope, nododd Bell Hooks ‘mae colegau a phrifysgolion wedi eu strwythuro mewn ffordd sydd yn dad-ddyneiddio, sydd yn eu arwain oddi wrth yr ysbryd cymunedol y maent yn dyheu amdano wrth fyw eu bywydau’. Yn hytrach nag addysg gystadleuol sydd yn ‘dryllio’ ac yn ‘rhwygo’ gan achosi ‘datgysylltiad a darnio’, mae Bell Hooks yn gweithio er mwyn ‘gwella ein ymwybyddiaeth gyfunol o’r ysbryd cymunedol sydd yn gyson bresennol pan yr ydym yn addysgu ac yn dysgu’. Gall y ffordd yma o ddysgu fodoli tu chwith allan a thu hwnt i osodiadau dysgu ffurfiol. Yn aml, mae’n bodoli trwy dwyll a gwrthsafiad, er gwaethaf yr ymdrech i’w atal. Yn ogystal mae’n ail fframio’r hyn yr ydym yn ei ystyried fel ‘dysgu’. Fel y disgrifia Raymond Williams y term ‘addysgedig’, ‘there is a strong class sense in this use, and the level indicated by ‘educated’ has been continually adjusted to leave the majority of people who have received an education below it.’

Gellir darllen y cofnod blog gwreiddiol yn llawn, yma.