Dewislen
English
Cysylltwch

Sialensau Wythnosol Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales – #4

Cyhoeddwyd Llu 20 Ebr 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Sialensau Wythnosol Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales – #4
Yn ystod y cyfnod ansicr hwn lle mae llawer o weithdai a digwyddiadau wedi cael eu gohirio, mae’r sialensau’n ffordd i Gruffudd Owen ac Eloise Williams barhau i ymgysylltu â ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth.

Rydym yn annog plant i anfon eu gwaith at y cyfeiriadau ebost yma:

barddplant@llenyddiaethcymru.org (Bardd Plant Cymru)

childrenslaureate@literaturewales.org (Children’s Laureate Wales)

Bydd pob un sy’n anfon cerdd, stori neu adolygiad atom yn derbyn cerdyn post wedi’i lofnodi’n arbennig iddynt gan Gruff neu Eloise, a bydd rhai ohonynt yn cael eu recordio a’u rhannu ar-lein fel y gall Cymru a’r byd i gyd glywed pa mor wych yw’r straeon.

 

Dyma’r sialensau ar gyfer wythnos #4:

Yr wythnos hon mae Gruff ac Eloise wedi ymuno ag Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan i osod sialensau wedi’u seilio ar ddau o adeiladau eiconig y safle.

 

Bardd Plant Cymru

 

 

 

Am ragor o luniau a gwybodaeth am adeilad Llys Llywelyn (a’r holl adeiladau gwych sydd yna), ewch i wefan Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yma.

 

Children’s Laureate Wales

 

 

 

Am ragor o luniau a gwybodaeth am adeilad Ffermdy Cilewent (a’r holl adeiladau gwych sydd yna), ewch i wefan Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yma.