Dewislen
English
Cysylltwch

Cipolwg pry ar y wal – diwrnod ar Gwrs Mentora 2020

Cyhoeddwyd Maw 5 Mai 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cipolwg pry ar y wal – diwrnod ar Gwrs Mentora 2020
FfotoNant

Nôl ym mis Ionawr, fe gyhoeddom ni enwau’r rheini sy’n derbyn cefnogaeth yn 2020 trwy ein Ysgoloriaethau i Awduron a’n Cynllun Mentora.

Ddechrau mis Mawrth 2020 rhoddodd Llenyddiaeth Cymru y cyfle i griw Cynllun Mentora 2020 fynychu cwrs yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Dewch gyda ni trwy gil y drws i weld beth sy’n digwydd…

 

Roedd y Cwrs Mentora o dan arweiniad y tiwtoriaid Llwyd Owen a Katherine Stansfield. Yn ystod yr wythnos cafwyd sesiynau gan siaradwyr gwadd o’r byd llenyddol yng Nghymru, yn cynnwys Angharad Price, Dan Berry, Alys Conran, Elin Haf Gruffydd Jones, Gary Raymond a R. Arwel Jones.

Roedd y 10 awdur ar Gynllun Mentora 2020 yn bresennol, yn ogystal â Marek Maj o gynllun Emerging Translators y National Writing Centre. O ganlyniad i bartneriaeth newydd rhwng Llenyddiaeth Cymru, National Centre for Writing a Chyfnewidfa Lên Cymru, roedd cyfnewid cyfieithwyr llenyddol; bu Susan Walton ar gwrs NCW yn Norwich, a chafwyd cyfle i groesawu Marek Maj i Gymru.

“Prin iawn yw’r cyfleoedd ym mywyd i dreulio wythnos yn trafod llenyddiaeth, a hynny yng nghwmni awduron eraill, ond dyna a fu! Roeddem ar wahân ar un ystyr, yn ein byd bach ein hunain yng nghanol prydferthwch Eifionydd, ond roeddem hefyd yn gweld y byd trwy lygaid ein gilydd, ac felly’n gweld popeth o ongl wahanol. Dysgais lawer iawn gan fy nghyd-awduron, a bu’r sgyrsiau yn ysgogiad ffrwythlon; cefais hefyd amser i ysgrifennu, a daeth syniadau ataf o bob cyfeiriad. Sbardun mawr arall oedd gallu clywed gan – a holi – ein tiwtoriaid, a hwythau mor brofiadol yn eu meysydd. Gallaf ddweud i mi adael yn llwythog o ysbrydoliaeth (a hiraeth!). Mae gen i olwg cliriach o lawer bellach ar y ffordd ymlaen gyda fy nghyfrol”.

                                                                                                                        Morgan Owen

 

“Cefais wythnos arbennig yng nghwmni rhai o sêr dyfodol llenyddiaeth Cymru. Mewn lleoliad mor hyfryd, mae bron yn amhosib peidio â chael eich hysbrydoli. Yn ogystal â’r elfen addysgiadol, roedd y gwesteion arbennig yn wych. Nid oes unman yn debyg i Tŷ Newydd.”

Llwyd Owen

Mae Ysgoloriaethau i Awduron a Chynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru yn weithgareddau allweddol o dan Golofn Gweithgaredd Datblygu Awduron y sefydliad. Mae’r golofn hon yn cynnig nifer o gyfleoedd i awduron Cymru i fireinio ac ehangu eu sgiliau, gan ddatblygu eu potensial creadigol a phroffesiynol.

I ddarllen mwy am gynlluniau Datblygu Awduron Llenyddiaeth Cymru, ewch i https://www.llenyddiaethcymru.org/datblygu-awduron/

 

 

I ganfod mwy o luniau o’r wythnos, ewch draw i’n cyfrif Facebook yma: www.facebook.co.uk

Tŷ Newydd