Her 100 Cerdd #23: Cyfres o Haikus am gwpan y byd
Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019
Cyfres o Haikus am gwpan y byd
Cymru’n y ffeinal?
No wê! Hwrê! Dyma ni!
Feiddiwch chi’n herio?
Y crysau duon
sydd wedi ateb yr her,
awn ni amdani!
Dyma hwyl a sbri!
Rhedeg, cicio a sgorio;
taflu a taclo.
Gwyliwch rhag rhuo
Ena Mai, masgot Cymru –
mai’n rhyfeddol ddraig!
Hedfana’n uchel
dros drigolion Siapan gan
lygadu’r gwpan.
Pwy fydd yn curo
rhwng y cicio a’r sgorio?
Ena sy’n gwybod…
Cymru ein cochion
arwrol, yn te! Codwn
faneri ein gwlad!
– Beth Celyn, 6.09pm
Ar gais Bl.6 Ysgol Treganna: