Her 100 Cerdd #24: Ffermwyr Ifanc
Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019
Ffermwyr Ifanc
Sdim pechod mewn bod yn ifanc,
achos chi sy bia’r byd –
pob cae, a chlawdd, pob nant a ffos, pob cornel –
cadwch nhw’n ddiogel am mai chi
sy’n berchen ar heddi, ac yfory o ran hynny.
Ac fe gewch chi sgwaru lan i fywyd
a dangos eich bod chi’n meddwl busnes,
eich bod chi’n hen, hen barod am bob dim a ddaw;
chi ffemrwyr ifanc, chi bobl y dyfodol,
chi ffurfwyr ffawd, chi geidwaid ein tir.
– Elinor Wyn Reynolds, 6.15pm
Yn ymateb i gais gan Clwb Ffermwyr Ifainc Dyffryn Nantlle: