Her 100 Cerdd #28: Llyfrgelloedd
Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019
Llyfrgelloedd
Ymgollais mewn llyfrgelloedd
drwy fy mhlentyndod,
yn hud a lledrith y llyfrau
a’r cyfleodd lu a siapiodd
sgôp fy nychymyg.
Nythais rhwng y silffoedd
a dianc i fydoedd estron,
ac eisteddais yng nghwmni
beirdd ac awudron a ddangosodd
i mi sut mae dal yr awelon;
sut mae creu fy ngwialen greadigol,
ei chastio, a disgwyl yn fud
am y brathiad a’r crychdonau
a grea egin stori neu gerdd;
sut i’w trin, sut i’w meithrin,
a sut i’w gofalu wedi’r aros.
– Beth Celyn, 7.18pm
Mewn ymateb i gais gan Bethan M. Hughes ar Twitter: