Her 100 Cerdd #31: Gan nad oes ‘i’ yn Walrys
Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019
Gan nad oes ‘i’ yn Walrys
I gyfarch tîm pel-droed y Walrysiaid sy’n chwarae pob nos Fawrth yng Nghaerdydd:
Yng nghanol glaw neu yng ngwres yr haul
Mae’r walrysiaid dal i chwarae’n wael.
Braidd â thalent, yn mynd heb ras,
ymhlith y walrysiaid, sneb yn class.
Ond maent uwchlaw’r ffwdan ar ffys;
gan nad oes ‘i’ yn walrys.
gan nad oes ‘i’ yn walrys
gan nad oes ‘i’ yn walrys
maent uwchlaw’r ffwdan a’r ffys;
gan nad oes ‘i’ yn walrys.
– Dyfan Lewis, 7.46pm