Her 100 Cerdd #32: Dal y Machlud
Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019
Dal y Machlud
Penderfynais fynd am dro
i ddal gwreichion ola’r machlud,
i fwynhau arlliwiau’r gwyll
cyn i’r noson fy nghofleidio.
– Beth Celyn, 8:03 pm