Her 100 Cerdd #33: Jason Donovan a’r Tân yn ei Bants
Jason Donovan a’r Tân yn ei Bants
(Stori yn y newyddion heddiw)
Bu Jason yn dipyn o heart-throb yn ei ddydd,
wede rhai ei fod e’n dinboeth, yn hunky,
roedd ganddo wên lachar, gwallt o aur a chorff cyhyrog chunky
Erbyn nawr, a fynte’n seren a wibiodd yn wyllt drwy’r wythdege,
sdim llawer o iws i has-been fel fe.
Ond dros nos, fe drodd Jase yn gymydog da eto
ac fel superhero go iawn,
mae’n achub y sefyllfa yn ei bants.
Oherwydd aeth y tŷ drws nesa ar dân
a mas ag e yn ei altogether,
brasgamu fel ’se fe yn yr Outback
heb fecso dim am bwy welodd be’.
Fe fflashodd ei ddiffoddwr tân yn ewn o fla’n pawb, ac yn ei bants rhoddodd lam,
ac achub tŷ cyfan rhag cael ei lyfu’n ulw gan dafod gwritgoch y fflam.
Jason, rwyt ti’n arwr claerbants, yn ddyn caredig, hael,
yn ddyn sy’n werth ei halen, yn gymydog gwerth ei gael.
– Elinor Wyn Reynolds, 8:09 pm