Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #38: Byddwch Barod am Frexit

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Dyfan Lewis

Byddwch barod am Frexit

Byddwch barod am Frexit
Prynnwch y ffwl Brexit cit:
y spam, môldi jam, bat criced,
brysia nawr paid angofio dy diced
ar gyfer y bws Brexit braf
sy’n dyrru at *rywle* yn araf
O! I gael gyrru at *rywle* yn araf
mewn dwylo sâff, yn hyderus Frits.
Byddwch barod am Frexit.
– Dyfan Lewis, 9.25 pm
Uncategorized @cy