Her 100 Cerdd #39: Dwi o’r Un Pentre â Josh Adams
Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019
Dwi o’r un pentre’ a Josh Adams
Yn ymateb i gais Adran Gymraeg Y Strade
Mae’n gyffrous o od imi feddwl
fy mod i o’r un pentre’
ag un o sêr rygbi Cymru erbyn hyn!
Ie, dwi o’r un pentre’ a Josh Adams
chredwch chi fyth!
Yr Hendy yw ei henw hi,
pentre’ bach yn nwyrain Sir Gâr
lle mae ‘na ddigon i’w gwneud,
a’r Gymraeg yn dal ei thir yn gryf.
Wedes i ‘mod i o’r un pentre a Josh Adams?
Ac wrth imi ei wylio’n gwibio ar hyd
esgyll caeau’r byd, yn plymio
tros wyngalch gwrthwynebwyr lu,
daw’r un meddwl i’r amlwg bob tro:
‘Dwi o’r un pentre’ a Josh Adams!’
Chredwch chi fyth, mae’n gyffrous o od!
– Matthew Tucker, 10.00 pm