Her 100 Cerdd #41: Cerdd Alaw
Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019
Cerdd Alaw
Weithiau dwi’n teimlo mor nerfus
nes bod fy nghoesau’n crynu fel jeli,
ac weithiau mae’r pryder yn cnoi
fel tasa bochdew yn fy mol i!
Ond pan dwi’n teimlo felly
caeaf fy llygaid ac anadlu’n ddofn,
a chofiaf am yr holl bethau
nad ydw i eu hofn.
Ac atgoffaf fy hun yn ddewr
am yr holl bethau, hyfryd da
sy’n fy ngwneud i yn fi
ac sydd wedi fy arwain i yma.
– Beth Celyn, 10.17 pm