Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #44: Trên Dychymyg

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Dyfan Lewis
Her 100 Cerdd #44: Trên Dychymyg

Trên Dychymyg

Mewn breuddwyd af i Bort Talbot.

Hel y lle a’i gasglu i’w deimlo’n
fy llaw unwaith eto.
Dal pob peth cyffwrdd ynghyd,
ei siapiau a’i chorneli
mynd at y byd sydd rhwng y gwyrddni blêr
a’r concrit.
Er fy mwyn i,
er mwyn nodi;
mai yma y mae Cymru.
– Dyfan Lewis, 10.33 pm
Llun gan @caryshuws
Uncategorized @cy