Her 100 Cerdd #49: Werth y Byd
Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019
Werth y Byd
Cerdd am gynaliadwyedd
Tasem ni gyd yn diosg ein hegos brau,
efallai darganfyddem aur ein hyfory ni,
nid mewn eden ryw ddyfodol,
ni fydd yr ardd honno byth yn bod,
ond yn y trysorau sydd o’n hamgylch
nad yw’n rhwystro troelli’r rhod.
– Beth Celyn, 11:41 pm