Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #53: Murlun

Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019 - Gan Matthew Tucker

Murlun

Wrth yrru i Dŷ Newydd, ces ysbaid fach ger murlun ‘Cofiwch Dryweryn’.

 

Ai ar hap yw ‘mod i ‘di dewis fan hyn
i stopio’r car a stretsho ‘nghoese’?

Ai’r Awen a ‘ngwthiodd i ‘ma
i ga’l rhyw fath o ysbrydoliaeth
gan wbod fod ‘na her
yn y ‘nishgwl i’n y Gogledd?

Ai fi sy’ fod i ganu’r gerdd hon
yn ymbil arnoch i #CofioTryweryn?
O’s rhaid imi neud ‘ny wedwch?

‘Da chi’n gwbod yr hanes siŵr?
Wedi’i Googlo fe mae’n rhaid?
Yr helynt am y dŵr a’r boddi,
a’r llunie’ o’r fynwent,
a fideos o’r teuluoedd yn protestio
cyn cael eu taflu fel sgraps
o’u cartrefi?

Ond chi’n gwbod hynny i gyd, ie?

S’dim angen imi ganu cerdd, te?

– Matthew Tucker, 0:29 am

Uncategorized @cy