Her 100 Cerdd #61: Greta
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Greta
Ar gais Erin Owain (eowain8), Thomas H James (@Rhygyfarch) a Lyn (@passingstranger)
Nid cwlt yw Greta gyda’i môr o gymhelliant
na’r bobl ifanc eraill a floeddia
dros donnau ein hargyfwng ni.
Mae dros ganrif a hanner o wthio wedi creu
miloedd o flynyddoedd o flerwch
ac mae angen i ni sobri.
Felly pan feiddiwch honni bod Greta a’i ffrindiau
yn corddi ein normalrwydd
a’n drysu ein dyddiau;
ystyriwch am eiliad pam mai bygythiad a welwch
yn hytrach na’r gwirionedd
a wreiddia’n eu geiriau.
– Beth Celyn, 1:57 am