Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #64: Trump

Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019 - Gan Elinor Wyn Reynolds
Her 100 Cerdd #64: Trump

Trump

Am lwmp o ddim, am ddiffyg dyn, am wastraff lle aruthrol,
am hen sach oren wag o wynt cyfoglyd, brwnt, rhechregol.
Hunandrwmpedwr ymhonus yw, clown hunandosturiol
mae’n pwyntio bys ar bawb, ond fe, yn llawn dicter annymunol.
O, Donald bach, cau hi wir, gŵyr pawb y gwir plaen byddarol
bod arlywydd yr Iw Es of Ê yn siarad trwy ei ben-ôl.

– Elinor Wyn Reynolds, 2:30 am

Uncategorized @cy