Her 100 Cerdd #68: Tri o’r gloch y bore
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Tri o’r gloch y bore
Mae’n dywyll yma, dim arlliw o’r dydd ar gefn gloyw’r nos,
dim sôn am wawr,
mae’n dominô ar honno nawr,
yn fola buwch tu fas a phob bardd tu fewn yn crynu,
mae’n ddu bitsh fan draw, sdim cyffrad o lewyrch ynddi,
mae’n debyg mai fel hyn fydd hi, bois,
daeth y fagddu i deyrnasu
mae’r dudew yma i aros yn garthen gaddug i’n mygu
– a dyna’r gwir –
ddaw dim goleuni ’nôl i’r tir.
– Elinor Wyn Reynolds, 3:36 am