Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #70: Yr Oriau Mân

Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019 - Gan Beth Celyn
Her 100 Cerdd #70: Yr Oriau Mân

Yr Oriau Mân

 

Ai ffolineb yw gwrthsefyll y reddf o gysgu?

Mae blinder yn dechrau drysu’r ffin

rhwng breuddwyd a realiti,

a dwi’n ysu am gysgu,

am orwedd ar wely,

ond gwn mai ffôl

fyddai hynny

gyda sawl

cerdd dal

angen eu

sgwennu.

 

– Beth Celyn, 3:58 am

Uncategorized @cy