Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #73: The Wire

Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019 - Gan Dyfan Lewis
Her 100 Cerdd #73: The Wire

The Wire

 

Yn ymateb i gais gan fy nhad

 

Gwranda’n astud;

mae Baltimore dal i regi,

dal i siarad, dal i waedu

dal yn llwgr, dal yn bwdr

dal yn junky.

 

Ac yn y llefydd lle mae tlodi

yn gollwng plant a’n gorfodi

trais a malais,

diffyg hyder, diffyg llais,

mae’n anodd canfod daioni.

 

Ond ddei di o hyd i’r peth yn Baltimore,

os wnei di wrando’n astud ar y stryd

a sylwi.

– Dyfan Lewis, 5:17 am

Uncategorized @cy