Her 100 Cerdd #77: Seidr Llydaweg
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Seidr Llydaweg
Melysder y sudd afal meddwol
a lenwa sawl atgof mwyn,
o feddwi dros fysyls yn Lanester
a’u bwyta heb unrhyw gwyn.
O aros i fyny’n yr hwyrnos
rôl dychwelyd i Splott yn y glaw,
o chwarae’r gitâr, a’r dijaridw,
a chreu sawl hwylus alaw.
– Beth Celyn, 5:55 am