Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #78: I Nain Daf Wyn

Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019 - Gan Matthew Tucker
Her 100 Cerdd #78: I Nain Daf Wyn

I Nain Daf Wyn

Gan ymateb i gais @AmeliaAber am gerdd i Nain Daf Wyn sydd yn gwau 2020 o flancedi ar gyfer ffoaduriaid.

 

Arwres ydy Nain Daf Wyn

â hithau’n gwau pob pwyth yn gelfydd

gyda’i bodiau twym, cariadus

ac yn eu gosod yn dwt yn eu lle,

cyn gwisgo’r cyfanweithiau am bob un,

pob un flanced wedi’i llenwi â’i chalon,

pob flewyn o wlân yn llawn o’i gwres,

pob pwyth yn noddfa i’r cyrff bach, eiddil.

– Matthew Tucker, 6:40 am

Uncategorized @cy