Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #80: Tri Pheth

Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019 - Gan Dyfan Lewis

Tri Pheth

Dywedodd D ap G un tro
mai tri pheth oedd angen arno.
Ry’n ni feirdd yn gwybod i’r dim
am ein meidroldeb
am ein diwedd chwim.
Bod popeth yn dod at ddiwedd ryw ben
Y blincin diwrnod ma hefyd
(amen)
Dyna pam rhaid diolch am
nachos, coffi a Miriam.
– Dyfan Lewis, 6:49 am
Uncategorized @cy