Her 100 Cerdd #82: Arddel
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Arddel
Sgwennais un tro
am ddeffro’n flin
i sŵn yr adar,
eu jiawlio fel dyn
oedd wedi danto
ac eisiau cysgu.
Doedd gennai ddim gair
am y clebar mawr
yn fy mamiaith
dim ond geiriau benthyg
nad oedd yr un fath.
Ond bellach mae’n fore eto,
mae pawb yn deffro,
ac rwyf innau wedi’n swyno
gan gôr y bore bach.
– Dyfan Lewis, 7.21am
Cerdd am ysgrif wnaeth Dyfan ysgrifennu i O’r Pedwar Gwynt.