Her 100 Cerdd #83: Twitter yn deffro
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Twitter yn deffro
7:15 y.b.
Twît twît, mae Twitter ‘di deffro!
Gryndwch! Mae pob calon
ac ail-drydariad yn ein llusgo’n
ein holau i’r byd o’n cwmpas.
Twît twît, mae’r trydar yn trymhau!
A ninnau’r beirdd yn llenwi’n cyrff
ag egni gyda’r llinell derfyn
yn dod i’n golwg yn awr.
– Matthew Tucker, 7.15am