Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #87: Alan Partridge

Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019 - Gan Elinor Wyn Reynolds
Her 100 Cerdd #87: Alan Partridge

Alan Partridge

Rwy’n petruso rhag dweud hyn
ond mae Alan yn dŵd, mae’n rocio, mae’n totally rad
mae deall ein mŵd ac mae ei fys ar byls sâl y wlad,
y brenin beige sy’n dala’i slacks yn dynn
teyrn yr easy listening.
Dwed rhai ei fod e past it, out of touch, yn ddeinosor blin ar y radio,
no-way pal, jyst no-way, Norfolk ydy o ’nde, ambasador Norwich, dyna ydy o.
Achos, go iawn, mae’n adnabod ni’n well na ni’n … aha … adnabod ein hun.

– Elinor Wyn Reynolds, 9.00 am

 

Mewn ymateb i gais ar Twitter:

Uncategorized @cy