Her 100 Cerdd #89: Heno
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Heno
Cerdd ar gais rhaglen Heno
Heno, Heno, hen blant Cymru
daw’r cyfan yn fyw ar ein sgrin deledu.
Maen nhw’n dweud bod gan bawb yn y byd eu stori
wel, ma pawb yn fan hyn wrth eu boddau’n ei dweud hi,
sy’n beth hollol wych achos wrth ddod i adnabod pobl y wlad o agos a phell,
fe ddown i adnabod ein hunain yn well.
– Elinor Wyn Reynolds, 10:35 am