Her 100 Cerdd #91: Meddwl am adre’
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Meddwl am Adre’
Nid oes yn awr ond dechre’ meddwl am adre’
wrth i’r her ddirwyn i ben yn ara’ bach.
Mae egni’r caffîn yn dechrau gwagio o’n cyrff,
a’n boliau’n llawn o fflwcs siwgwraidd, melys.
Llusgwn ein beiros yn flinedig ‘r hyd ein dalennau,
a thap-tapiwn ein bysellfyrddau’n drymach yn awr.
Try’n meddyliau’n llawn ffradach am wely a chwsg,
a gyrru’n ein blaenau yn ôl i fröydd ein mebyd.
– Matthew Tucker, 10:45 am